Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/196

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a ffermdy Llenyrch. Ymhen amser, aethant hwy yn llai eu nifer, a rhoddasant yr ysgol i fyny. Yn y cyfwng hwn, daeth y Methodistiaid yn fwy lliosog, ac yn y flwyddyn 1856, yr ydym yn cael Ysgol Sabbothol yn ail ddechreu eto, a'r achos yn cael ei gychwyn yn y ffurf y mae ynddo yn awr. Y brawd ffyddlon Evan Roberts, un o flaenoriaid Maentwrog Uchaf, fu yn offerynol i ddechreu yr ysgol y tro hwn. Gwehydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac yn ei awydd a'i sel i ddysgu plant i ddarllen, arferai gymeryd llyfr gydag ef wrth fyned o gwmpas y ffermydd i ddanfon adref y gwaith a fyddai wedi ei wau, a lle y cyfarfyddai â phlant, rhoddai wers iddynt. "Un diwrnod, pan yn ffermdy Llenyrch yn rhoddi gwers yn yr A. B. C. i'r plant, gofynodd gwraig y tŷ, sef Mrs. Gwen Evans, a ddeuai ef i'r gymydogaeth i gadw Ysgol Sabbothol, yn gymaint a bod yno lawer o blant yn codi i fyny heb fod dan unrhyw fath o addysg. I'r hyn y cydsyniodd; ac aed ar unwaith at ŵr y Tŷ Newydd, yr hwn oedd yn digwydd bod ar y pryd yn ymyl, i ofyn a geid dyfod i'w dy ef i'w chynal. A chafwyd atebiad cadarnhaol. Dechreuwyd ar y gwaith gyda sel ac ymroddiad, a llwyddwyd i gael oddeutu 35 o ysgolheigion."[1] Cafodd ei sylfaenydd, i'r hwn y perthynai llawer o wreiddioldeb, gynorthwy brodyr eraill, ac yn eu plith, yr hen gymeriad hynod Robert Richard, Hendregerig. Yr oedd ef yn llawn sel gyda'r gwaith bob amser. Byddai ei bresenoldeb yn y moddion, a'i ddull astud yn gwrando, ynghyd a'i sirioldeb a'i gynghorion, yn creu bywyd yn yr holl aelodau. Y prif arweinwyr yma oeddynt, Edmund Roberts, Penbrynpwlldu, a Richard Roberts, Nantpasgen Bach. Cafwyd cynorthwy hefyd gan y brodyr Richard Jones, Canycoed; Simon Roberts, Tŷ Newydd; John Evans, Llenyrch; Ellis Jones, yr Onen; a Morris Ellis, Nantpasgen. Yn yr haf arferid cynal cyfarfod gyda'r plant yn yr

  1. Adroddiad yr Ysgolion Sabbothol 1873, gan y Parch. Elias Jones, Talsarnau.