Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/197

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

awyr agored o flaen y tŷ. Wrth weled y plant, a'u clywed yn ateb, gorchfygwyd teimladau yr hen frawd Robert Richard un Sabbath, a gofynai ar ganol y cyfarfod, "A oes dim adnod felly yn y Beibl, 'Bydd dyrnaid o fd ar y ddaear ymhen y mynyddoedd; ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus.' Beth ydi dy feddwl di o'r adnod yna Evan? Onid y plant yma sydd yn cael eu dysgu fel hyn yn yr Ysgrythyrau ar ben y mynyddoedd ydynt?" "Ie, fe," atebai Evan Roberts, "y boreu haua dy had, a'r prydnhawn nag atal dy law.' Dyna yda ni yn ei wneyd gyda'r plant yma." Diweddwyd y Sabbath hwnw mewn hwyl nefolaidd iawn.

Cynyddodd yr ysgol, a gwelid yn angenrheidiol cael ysgoldy i'w chynal. Cafwyd tir i adeiladu. Dyddiad y weithred ydyw Gorphenaf, 1861; ardreth flynyddol, haner coron. Ebrill y flwyddyn hono, penodwyd y personau canlynol yn ymddiriedolwyr y capel,-y Parchn. Edward Morgan, Robert Parry, William Davies, Griffith Williams, John Griffith (Dolgellau), Mri. Morris Jones, Cefngwyn; Owen Owen, Rhosigol; John Williams, Penrhyn; Owen Humphreys, ac Evan Roberts, Maentwrog; a John Williams, Siloam. Ac yn yr un Cyfarfod Misol, "Penderfynwyd fod eglwys Talsarnau i roddi arian yr eisteddleoedd tuag at dalu am yr ysgoldy uchod." Swyddogion eglwys Talsarnau, mewn cysylltiad â swyddogion Maentwrog Uchaf, ynghyd a'r brodyr John Evans a Richard Jones, o'r ardal hon, a fuont y prif offerynau i gael hyn o amgylch, a thrwy eu cynorthwy hwy, ynghyd a chasgliad a wnaed yn nosbarth ysgolion Ffestiniog, y llwyddwyd i gael y capel wedi talu am dano. Gan fod y gymydogaeth yn agos i'r canol rhwng Talsarnau a Maentwrog, teimlid anhawsder gyda golwg ar gael pregethu yn y capel. Yn Nghyfarfod Misol Medi, 1863, yr ydym yn cael y penderfyniad canlynol yn cael ei basio, "Fod Maentwrog a Thalsarnau i ganiatau odfa bob un, unwaith yn y mis, i gapel Llenyrch, a bod y rhai