Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/198

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sydd yn aelodau yn Llenyrch i berthyn, fel cynt, i Dalsarnau a Maentwrog." Medi, 1865, caniatawyd i'r aelodau eglwysig a fynychent y capel hwn gael cynal society yn wythnosol ; ond gan nad oeddynt eto wedi eu ffurfio yn eglwys, ymddiried wyd dygiad ymlaen y cyfarfod eglwysig i swyddogion eglwysi Talsarnau a Maentwrog, a bod iddynt yn eu tro ofalu am fod yn bresenol yn ei gynal.

Oherwydd fod y gofal am yr achos wedi ei osod ar y cyd, rhwng eglwysi Talsarnau a Maentwrog, digon helbulus fyddai hi ar y brodyr a'r chwiorydd crefyddol yma y blynyddoedd hyn, gan y byddent yn fynych rhwng dau yn syrthio yn fyr o gael cynorthwy gan neb. Gan hyny, dygasant ymlaen eu cais am gael bod yn eglwys reolaidd arnynt eu hunain. Ac yn Nghyfarfod Misol y Tabernacl, Rhagfyr, 1866, yr ydym yn cael eu hachos yn cael ei drafod eto,-"Bu sylw ar y gynulleidfa fechan sydd yn arfer addoli yn Llenyrch, gyda golwg ar ganiatau iddynt gael eu gwneyd yn eglwys reolaidd. Yr oedd y cyfarfod hwn yn ystyried fod sefydlu achosion bychain iawn yn eglwysi rheolaidd yn dra niweidiol yn y cyffredin; ond fe farnwyd fod neillduolrwydd amgylchiadau yr achos bychan yn lle hwn yn peri mai doethach ydoedd cydsynio i'w sefydlu yn eglwys, a phenodwyd y Parchn. Robert Parry a Grffiith Williams i fyned yno gyda golwg ar hyn. Penderfynwyd hefyd i'r lle fod mewn cysylltiad â Maentwrog fel taith Sabbothol." Ac o hyny allan, er fod gan Talsarnau law arbenig, os nad y llaw benaf, i gychwyn yr achos yn Llenyrch, gyda Maentwrog y mae wedi bod fel taith, a dau o'r gloch y mae y bregeth yma bob Sabbath. Rhoddir tipyn o brawf ar nerth corfforol y pregethwr, gan y rhaid tynu i fyny, ar draws ceunant rhamantus, a bydd yn dechreu ar y weinidogaeth y prydnhawn, yn dra mynych, naill ai wedi chwysu, neu wedi colli ei wynt, neu wedi cael ei guro gan y ddrycin. Ond mae y bobl yn siriol a ffyddlon iawn, ac yn y cyffredin dilynir yma yr