Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/200

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mlynedd diweddaf, yn gymaint nad oes hyny yn llawn er pan adeiladwyd y capel. Mae y symudiadau gyda chrefydd yn yr ardal yn flaenorol i hyny i'w cael mewn cysylltiad â Maentwrog Uchaf. Buwyd am flynyddoedd meithion yn methu cael tir i adeiladu yn y pentref, ac o ganlyniad yr oedd y bobl oddiyma ac o waelod yr ardal, trwy yr holl amser, yn gorfod myned i addoli i'r capel uchaf. Effeithiodd hyny yn naturiol i beri gwanychdod i achos y Methodistiaid yn Maentwrog. Bu yr Annibynwyr yn fwy ffortunus. Yr oedd ganddynt hwy eglwys wedi ei sefydlu yn Mhenyglanau er tua dechreu y ganrif bresenol. Ac yn 1810, adeiladwyd capel Glanywern ar ochr y ffordd o Drawsfynydd i Faentwrog. Yn 1840, trwy offerynoliaeth Mr. a Mrs. Lloyd, Tanybwlch Hotel, "cafwyd lle i wneyd capel newydd yn ymyl y pentref, a galwyd ef Gilgal." Yr oedd ac y mae y capel hwn yn fanteisiol iawn i bobl y pentref.

Y symudiad cyntaf a wnaethpwyd yn effeithiol gan y Methodistiaid tuag at adeiladu capel yn ngwaelod yr ardal ydoedd yn nechreu y flwyddyn 1872. Yn Nghofnodion Cyfarfod Misol y Bontddu, mis Mawrth y flwyddyn hono, ceir y sylw canlynol,-"Llawenychai y cyfarfod wrth ddeall fod drws o'r diwedd wedi agor i gael tir i adeiladu capel arno yn Maentwrog, a phasiwyd penderfyniad yn arwyddo fod y cyfarfod hwn yn dymuno rhoddi bob cefnogaeth i'r cyfeillion yn Maentwrog i sicrhau y tir yn ddioedi." Eto, yn Nghyfarfod Misol Mai yr un flwyddyn, gwnaed penderfyniad drachefn, "Dodwyd gerbron y cyfarfod stad bresenol pethau yn eu perthynas a'r capel newydd a fwriedir ei adeiladu yn Maentwrog, ac er nad oedd pobpeth ar hyn o bryd yn ymddangos yn galonogol, anogwyd hwynt i fyned ymlaen, a chaniatawyd i'r Parch. Elias Jones i fyned o amgylch ein holl gynulleidfaoedd i gasglu tuag at gynorthwyo cyfeillion y lle i ddwyn y draul." Cafwyd y tir i adeiladu gan Mr. Oakeley, Tanybwlch, ar brydles o haner can'