Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/201

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mlynedd, ac am 1p. o ardreth flynyddol. Y nifer all eistedd yn y capel yw 176. Aeth y draul o adeiladu yn 701p. 2s, 8c.. O'r swm hwn, casglodd y Parch. Elias Jones, yr hwn oedd y pryd hwnw yn weinidog yn Maentwrog, 200p. yn eglwysi y sir. Adgyweiriwyd rhyw gymaint ar y capel yn fuan ar ol ei adeiladu, fel yr oedd ar ddiwedd 1880, y swm o 841p. 10s.. wedi ei dreulio rhwng yr adeiladu a'r adgyweirio. Mae y capel hwn bellach yn dra chyfleus i bobl y pentref a gwaelodl yr ardal, ac y mae eisoes wedi bod yn fendith fawr i'r lle. Yr hyn a feddylir wrth "nad oedd pobpeth yn galonogol" yn y penderfyniad uchod ydyw, fod hyd y brydles mor fer, ond yr oedd yn dda ei chael yn yr hyd hwnw.

Aethpwyd i'r capel newydd i addoli yn mis Medi, 1873. Yn Nghyfarfod Misol Brynerug, Hydref y flwyddyn hono, gwnaed y penodiad canlynol,-"Rhoddwyd hysbysrwydd fod capel newydd Maentwrog yn awr wedi ei orphen, a'u bod wedi. dechreu addoli ynddo. Penodwyd i fyned yno i'w sefydlu yn eglwys ar eu penau eu hunain, y Parchn. N. Cynhafal Jones, y Penrhyn, a Mr. R. Griffith, Ffestiniog." Eu rhif ar eu mynediad i'r capel ydoedd, gwrandawyr, 92; cymunwyr, 50; Ysgol Sul, 60. Bu y ddau gapel an ddwy flynedd yn un daith. Yn Hydref, 1875, yr ydym yn cael y penderfyniad canlynol yn cael ei wneuthur,-" Hysbyswyd o Maentwrog a Ffestiniog eu bod wedi penderfynu gwneyd rhaniad ar y teithiau, sef rhoddi y Babell gyda Maentwrog Uchaf, a Llenyrch gyda Maentwrog Isaf. Caniatawyd i'r rhaniad yma. gymeryd lle, gan fod Ffestiniog mor garedig a chynorthwyo y Babell i dalu am un bregeth bob Sabbath, ac anogwyd y Cyfeisteddfod Arianol i roddi 28. 6c. y Sabbath i gynorthwyo Llenyrch yn ol eu cais." Pan adeiladwyd Engedi, Ffestiniog, tynwyd y Babell oddiwrth y trefniad hwn, ac mae y tri lle eto yn un daith, sef Maentwrog Uchaf, Llenyrch, a Maentwrog Isaf, a cheir ynddi yn fynych ddau bregethwr.