Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/202

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Un blaenor a ddaeth i lawr gyda'r eglwys o Maentwrog Uchaf i'r capel isaf, sef Mr. Griffith Pritchard, yr hwn sydd yn awr yn flaenor yn Gorphwysfa. Y rhai cyntaf a ddewiswyd ato ef, ac a dderbyniwyd yn aelodau o'r Cyfarfod Misol, Mawrth, 1874, oeddynt Mri. Richard G. Pritchard, John Richards, Shop Isaf, a J. Parry Jones. Symudodd Mr. R. G. Pritchard i Gorphwysfa, Penrhyndeudraeth, ac y mae yn flaenor yno. Symudodd Mr. Jno. Richards Lanbedr,—ceir sylw arno yno. Symudodd Mr. J. Parry Jones i Blaenau Ffestiniog, ac y mae yn awr yn adnabyddus fel blaenor gweithgar yn Garegddu. Ar ol y brodyr hyn, etholwyd Mr. David Roberts, Glan'rafon, i'r swydd. Gwnaed dewisiad hefyd yn yr eglwys hon ar Mr. John Morgan, yr hwn yn awr sydd yn flaenor yn y Pant. Yn Tachwedd, 1886, etholwyd Mri. John Davies, Lodge; David Roberts, Tanybwlch; Edward Jones, Mill; Edward Kyffin, Shop; a Thomas Roberts, Shop Isaf. A hwy eu pump ydyw y blaenoriaid presenol.

Bu y Parch. Elias Jones yn weinidog yr eglwys o'i chychwyniad hyd nes y symudodd oddiyma i Sir Drefaldwyn. Wedi hyny, rhoddwyd galwad i'r Parch. G. Ceidiog Roberts, a bu yntau yma o Mehefin, 1877, hyd Rhagfyr, 1889, pryd y symudodd i Lanllyfni. Mae yr eglwys hon, ynghyd a Llenyrch, wedi ymgymeryd a'u rhan yn mhryniad tŷ i'r gweinidog. Y rhif ar ddechreu y flwyddyn 1890,—Gwrandawyr, 90; cymunwyr, 65; Ysgol Sul, 72.

LLANFROTHEN (SILOAM).

Olrheinir dechreuad cyntaf yr achos yma i "deulu Arch Noah," sef teulu o wyth enaid a gyfarfyddent er ymffurfio yn gymdeithas eglwysig yn Pandy-y-Ddwyryd, yn y flwyddyn 1757. Yr oedd un o'r wyth yn dyfod o'r ardal hon. Rhoddir sail i dybio nad oedd yma ond un crefyddwr, onide paham na