Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/203

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

buasent yn myned gyda'u gilydd i Bandy-y-Ddwyryd. Ond byddai yr hen bobl yn arfer dweyd iddynt glywed rhai hynach na hwythau yn son am dri neu bedwar o grefyddwyr yn byw yma yr adeg a nodwyd. Dichon y byddai yr ychydig grefyddwyr oedd yn yr ardal yr adeg foreuol hon, yn myned i Penrhyndeudraeth, oblegid ffurfiwyd cymdeithas eglwysig yno oddeutu yr un adeg ag yn Pandy-y-Ddwyryd, neu o leiaf, yn fuan ar ol hyny. Byddai pregethu yn rhai o dai y gymydogaeth yn achlysurol er yn foreu; yn Ynysfor, lle yr oedd John Jones, hen bregethwr cyfrifol, yn byw; yn Hafotty, ffermdy yn agos i odreu y Moelwyn, ac yn Ogof-llochwyn. Dywedir fod maes yn y lle olaf a adnabyddir hyd heddyw wrth yr enw "Cae gwr dieithr," am mai yno yr arferid troi ceffylau y pregethwyr i bori. Trwy y rhan yma o'r gymydogaeth, fel y tybir, yr oedd tramwyfa yr efengylwyr ar eu ffordd o'r Deheudir tua Beddgelert a Chaernarfon. Arferid pregethu fel hyn yn achlysurol yn y gwahanol ffermdai am y tymor maith o driugain mlynedd cyn bod eglwys wedi ei ffurfio yn ardal Llanfrothen.

Yn y flwyddyn 1868, ysgrifenodd Mr. Evan Williams, Rhyd, hanes Ysgolion Sabbothol Llanfrothen a Chroesor, a chyhoeddwyd ef mewn cysylltiad â chyfrifon Ysgolion Dosbarth Ffestiniog y flwyddyn hono. Gan ei fod ef yn dal cysylltiad, trwy berthynas â hen deuluoedd yr ardal, ac yn ysgrifenu fwy nag ugain mlynedd yn ol, yr oedd ganddo fantais arbenig i gael llawer o fanylion nas gellir eu cael yn awr. Yn yr ardal hon, yn fwy nag un man, mae yr achos crefyddol wedi tyfu o'r Ysgol Sul, ac y mae hanes y naill yn gydblethedig a hanes y llall. Er gweled y modd y dechreuodd ac y cynyddodd yr achos, cesglir y prif ffeithiau o'r hanes crybwylledig hyd yr adeg y ffurfiwyd eglwys yma, ychydig o amser cyn ymsefydliad y Parch. Richard Jones, yn y Wern.

Yr hanes cyntaf am yr Ysgol Sul yn Llanfrothen ydyw, ei