Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/204

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bod yn cael ei chynal yn yr Hafotty, yn agos i fynydd y Moelwyn, cartref yr hen Gristion selog, ac un o flaenoriaid cyntaf yr eglwys, William Lewis, a hyny mor foreu a'r flwyddyn 1796. Edrychid gyda llygaid drwgdybus ar y sefydliad gan yr ardalwyr yn gyffredin. Preswyliai yr enwog John Jones, o Ramoth, yn Hafotty y pryd hwn, am y mur a'r lle yr oedd yr ysgol. Siaradai lawer yn ei herbyn, nes creu rhagfarn tuag ati. Arferai ddweyd na fuasai ond yr un peth ganddo ef weled y bobl yn myned i'r maes gyda "chaib a rhaw" ar ddydd yr Arglwydd, a'u gweled yn cadw ysgol i ddysgu ar y dydd hwnw. William Lewis a Gwen Jones, Pen'rallt, oeddynt yr offerynau i sefydlu yr ysgol yn y lle hwn. Gan na byddai yr un crefyddwr ond hwy eu dau yn dyfod i'r ysgol, arferai un ei dechreu, a'r llall ei diweddu, bob yn ail. Yr oedd William Lewis yn ddarllenwr lled dda, yn hyddysg yn yr Ysgrythyrau, ac yn llawn sel gyda'r plant. Gwen Jones hefyd oedd wraig ddeallus yn ei dydd. Yr oedd hi yn ferch i'r hen bererin, John Pritchard, Hafod-y-mynydd, y diacon cyntaf fu yn Penrhyndeudraeth. Y nos y cynhelid yr ysgol, oherwydd rhyw resymau; ac weithiau cynhelid hi ar nosweithiau gwaith, a deuai llawer mwy iddi yr adegau hyny.

Cynhelid hi tua'r flwyddyn 1806 yn Brongamedd, preswylfod Morris Pritchard, wedi hyny o Penrhyndeudraeth. Gwr nodedig o ffyddlon oedd ef gyda dysgu y plant. Wedi myned yn hen, a cholli ei olwg, wylai yn hidl, am na allai fod gyda'i hoff waith. Gŵr arall cadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yn ymroddgar gyda'r ysgol yr adeg yma, oedd Hugh Llwyd, Gyrddinen, Dolyddelen, yr hwn a ddaeth i fyw i Factory y Parc, a bu ei ddyfodiad yn fendith i'r ardal. Ymhen ychydig wedi hyny, bu yr ysgol yn cael ei chynal yn Ogof-llochwyn. A thros ryw dymor, yn y cyfwng hwn, buwyduyn methu cael lle i'w chynal yn y plwyf. Yn eu penbleth, a chan deimlo eu colled ar ol yr ysgol, aeth yr hen frodyr at offeiriad y plwyf,