Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/205

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i ofyn caniatad i'w chynal yn eglwys y plwyf rhwng y gwasanaeth. Yr offeiriad yn garedig a ganiataodd eu dymuniad. Yr oedd yma ddigon o le i bawb, ac ymunodd amryw o'r rhai yn flaenorol a arferent fyned i'r Penrhyn. Yn eu plith yr oedd Robert Hughes, Brynllydan, un o'r rhai ffyddlonaf a mwyaf galluog yn yr ardal. Y pryd hwn y dygwyd Hyfforddwr Mr. Charles i sylw yr ysgol. Cyn bo hir, daeth i glustiau yr offeiriad eu bod yn gweddio yn yr eglwys heb y ffurf apwyntiedig, a rhoddodd rybudd iddynt ymadael yn uniongyrchol. Ond cyn i'r rhybudd gael ei roddi mewn gweithrediad, Huw Llwyd a ddywedai wrth un o'r brodyr, "Wyddost ti beth wnawn ni? Cymerwn y Common Prayer o'n blaen i weddio." Felly fu. Tawelodd hyn yr offeiriad, a chafodd y brodyr dawelwch i fyned ymlaen gyda'r gwaith. Bu yr ysgol yn y lle hwn hyd 1813.

Tua'r flwyddyn 1814, daeth i feddwl amaethwyr y gymydogaeth i gael ysgol ddyddiol yn yr ardal, ac i'r diben hwn, cafwyd caniatad i adgyweirio hen felin oedd yn agos i'r Wern, Bu y Parch. Thomas Hughes (gynt o Fachynlleth), pan yn llanc ieuanc, yn athraw yr ysgol hon am rai blynyddau. Yn fuan wedi dechreu yr ysgol ddyddiol yn y lle hwn, symudwyd yr Ysgol Sabbothol yno. A dyma hi o'r diwedd wedi dyfod i'r fan y dechreuwyd yr achos, ac y ffurfiwyd yr eglwys.

Adnabyddid yr achos, am yr ugain mlynedd dyfodol, wrth yr enw "Y Wern," neu "Felin y Wern." Hynod dlodaidd a llwydaidd yr olwg arni oedd yr hen Felin. Arferid cael llwyth o frwyn bob diwedd blwyddyn i wneyd i fyny yn lle planciau ar y llawr. Dywedir i'r Parch. John Jones, Talsarn, fod yma yn pregethu, ac iddo unwaith ddweyd yn ei weddi ar y dechreu, "Cofia, Arglwydd, yr ardal ddistadl hon." Digiodd un hen chwaer yn arw wrtho am alw yr ardal yn ddistadl. Coffheir am ddau neu dri o frodyr a fu yn dra amlwg gyda gwaith yr Arglwydd yn y lle y tymor hwn. Un oedd Evan