Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/216

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Parch. D. O'Brien Owen wedi ymsefydlu yma yn awr, er y flwyddyn 1889. Rhif y gynulleidfa, 390; y cymunwyr, 187; yr Ysgol Sul. 241.

CROESOR.

Yr oedd Cwm Croesor fel allan o'r byd; nid oedd ond ychydig yn gwybod fod y fath ardal yn bod hyd y flwyddyn 1860. Oddeutu y pryd hwnw y daeth y lle i sylw, trwy agoriad y chwarelau yn y fro. Saif y lle ar gŵr eithaf Gorllewin Meirionydd, megis rhwng ceseiliau y mynyddoedd a wynebant ar Borthmadog, ac yn bur agos i bum' milldir o bellder oddiwrth bob un o'r tri lle mwy adnabyddus,-Ffestiniog, Penrhyndeudraeth, a Beddgelert. Bu Ysgol Sabbothol yn cael ei chynal mewn tai yn yr ardal am tua haner can' mlynedd cyn adeiladu capel. Cynhaliwyd hi am chwe' blynedd ar hugain yn Bryngelynen. A'r weithred olaf a gyflawnwyd ar symudiad yr ysgol o'r tŷ hwn i'r capel, Tachwedd 27, 1863, ydoedd cyflwyno Beibl hardd yn anrheg i'r teulu, gyda diolchgarwch holl ddeiliaid yr ysgol. Ceir hanes cyflawn am ei symudiadau yn ei dechreuad, yn yr Adroddiad argraffedig gydag Ysgolion Sabbothol y Dosbarth, am y flwyddyn 1876, gan Mr. Thomas Williams, Bryn.

Gadawodd Diwygiad Beddgelert ei ol ar yr ardal. Cyfododd rhai dynion o'r diwygiad hwnnw, a ddaethant wedi hyny i deimlo yn ddwys yn achos cyflwr anwybodus eu cymydogion. Y Parch. Robert Owen, Rhyl (Apostol y Plant), yr hwn a fu am beth amser, pan yn ieuanc, yn dilyn ei grefft fel gwehydd yn Factory y Park, a ysgrifena yn 1876, gan roddi y disgrifiad canlynol o'r ardal a'i thrigolion:—"Aethum i'r Park tua'r flwyddyn 1818, neu tua dechreu 1819, hyd y gallaf gofio. Nid oedd un capel o'r Penrhyn i Beddgelert, ond capel Brondanw, nac un Ysgol Sul ond yn Talyrni ac yn Hen