Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/215

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DAVID GRIFFITH

a alwyd i'r swydd yn 1875. Bu yntau yn ffyddlawn, yn ol ei allu, gyda'r holl waith. Bu farw yn 1883, wedi gwasanaethu y swydd am wyth mlynedd.

Un arall a fu yn swyddog gweithgar yma am lawer o flynyddoedd ydyw Mr. H. Ll. Jones, sydd yn awr yn flaenor yn y Garth, Porthmadog. Dewiswyd ef i'r swydd yn y flwyddyn 1861. Gweithiodd yn egniol gyda'r achos yn Siloam am ugain mlynedd, hyd nes y symudodd oddiyma i fyw, a theg ydyw hysbysu iddo gyflawni ei swydd gyda medr a ffyddlondeb mawr.

Y blaenoriaid yn bresenol ydynt, Mri. O. D. Williams, yn y swydd er 1875; Morris Roberts, Evan D. Williams, a James Ephraim, eu tri yn y swydd er 1883.

Cyfododd tri a fagwyd yn yr eglwys hon yn bregethwyr. W. M. Evans, mab Edward Evans, Cefndreiniog. Aeth oddiyma yn llane ieuanc i'r cloddfeydd aur yn Awstralia. Wedi llwyddo i raddau gyda'r golud hwnw, ymroddodd i bregethu, a bu yn weinidog cymeradwy yn y wlad hono. Y mae, er's rhai blynyddau bellach, wedi ei symud i'r wlad sydd fil o weithiau yn gyfoethocach nag Awstralia. Un arall oedd William Jones, Bryngoleu, nai i'r blaenor rhagorol o'r un lle y crybwyllwyd am dano. Yr oedd ganddo ddawn neillduol i ddysgu ieuenctyd, a bu yn llafurus yn parotoi ei hun i'r weinidogaeth. Coleddid gobeithion uchel am dano, ond fe welodd yr Arglwydd yn dda ei gymeryd ato ei hun tra yr oedd yn parotoi at y gwaith. Bu farw oddeutu y flwyddyn 1856. Y trydydd ydyw y Parch. W. R. Jones, Caergybi, yntau hefyd yn nai i'r hen flaenor hybarch John Williams, Bryngoleu.

Bu y Parch. Owen Parry, yn awr o Lanidan, Sir Fon, yn weinidog yr eglwys hon o 1876 i 1878. Y Parch. T. E. Roberts, M.A., am yr un tymor ag y bu yn Nghroesor. Mae y