Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/214

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond dangosai gariad at y troseddwr. Yr oedd yn ddyn gwrol a phenderfynol, ac eto yn un o'r rhai addfwynaf y gellid eu cyfarfod. Gair a ddefnyddid am dano ydoedd, ei fod yn ŵr ystwythgryf. Am ei ffyddlondeb i'w gyfeillion ac i achos crefydd, gellir dweyd ei fod heb ei ail. Aberthodd lawer o'i amser mewn gwahanol ffyrdd i wasanaethu achos Mab Duw. Cerddodd lawer i gyfarfodydd. Byddai yn y Cyfarfod Misol blynyddol yn Nolgellau fel y cloc, ac wedi cerdded yno yr holl ffordd ar ei draed, a hyny trwy bob tywydd. Mor foddhaus ac mor rywiog ei dymer fyddai yn wastadol gyda phob peth. Er nad oedd yn hyawdl fel siaradwr, nis gwyddom am neb yn well type o flaenoriaid rhagorol yr oes o'r blaen na John Williams. Prawf o'r parch a enillodd yn ei eglwys a'i ardal ei hun oedd, y dysteb o werth 40p. a gyflwynwyd iddo pan ddechreuodd ei iechyd adfeilio, yn gydnabyddiaeth am ei lafur a'i ffyddlondeb. Bu farw mewn tangnefedd Mai 16eg, 1879, yn 74 mlwydd oed.

RICHARD THOMAS

a neillduwyd yn flaenor yr un adeg â John Williams, a bu gyda'r achos agos cyhyd ag yntau. Nis gellir dweyd fod llawer o hynodrwydd ynddo ef. Yr oedd yn gyson o ran ei fuchedd, ac yn bur ffyddlon o ran ei allu. Bu farw yn y flwyddyn 1877.

ROBERT ROBERTS, ERWFAWR.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn Nhraws- fynydd, Medi, 1861. Yr oedd yn dad i'r brodyr adnabyddus, Mri. Rees Roberts, Holland, a Meyrick Roberts, Bryneglwys, Abergynolwyn. Yr oedd yn ŵr ffyddlon gyda'r holl achos. Dyn gwyneb-agored a hollol ddidderbyn wyneb ydoedd. Gwasanaethodd ei swydd yn dda, a bu yntau farw yn y flwyddyn 1877.