Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/213

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Porthmadog, iddo ef ac Owen Pierce gael eu dewis yn flaenoriaid y noswaith y bu farw y Parch. Richard Jones, o'r Wern. Dyn plaen oedd W. Rowland, ac ymosodwr llym ar bob drwg. Nis gwyddom pa bryd y bu ef farw.

OWEN PIERCE.

Dyn gwybodus a chydwybodol; yn gymeriad gwreiddiol, ac yn meddu ar alluoedd cryfion. Ymunodd â chrefydd yn yr Hen Felin, yn amser Diwygiad Beddgelert. Yn lled fuan wedi ei ddewis yn flaenor yma, symudodd i Danygrisiau. Ceir ychwaneg o'i hanes yno.

JOHN WILLIAMS, BRYNGOLEU.

Teilynga ef goffhad helaethach nag unrhyw un o flaenoriaid yr eglwys hon. Yr oedd yn gymeriad ardderchog; meddai ddynoliaeth o'r fath oreu, a hono wedi ei sancteiddio gan yr Ysbryd Glân. Cyrhaeddodd barch a dylanwad mawr yn yr eglwys a'r gymydogaeth. Yn Bryngoleu, yn yr ardal hon, y ganwyd ac y magwyd ef, ac yno y treuliodd ei oes, oddieithr y pum' mlynedd olaf, pryd y symudodd i fyw yn nes i'r capel. Ni chafodd ei ddwyn i fyny yn yr eglwys, ond yr oedd yn wr ieuanc hynod o fucheddol, ac ymunodd â chrefydd pan oedd tua 30ain oed, ymhen blwyddyn wedi i'r eglwys ymsefydlu yn Siloam. Ymroddodd i weithio gyda chrefydd ar unwaith wedi iddo ymuno â'r eglwys. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn Maentwrog, Mai laf, 1845, pryd yr oedd y Parch. Dr. Edwards, Bala, yn llywydd, a'r Parch. Daniel Evans yn ysgrifenydd. Yr oedd ef yn ddiamheuol yn un o'r blaenoriaid goreu a fu yn Sir Feirionydd erioed. Bu holl bwysau y gwaith yn Llanfrothen ar ei ysgwyddau am lawer o flynyddoedd. Yr oedd yn ŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau, yn llawn sel ac ymroddiad gyda phob peth. Meddai ar ddoniau neillduol i gadw y cyfarfod eglwysig. Ymosodai yn llym ar bob pechod,