Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/212

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rywbryd, ebai un chwaer, "Mae Dafydd Sion yn ffyddlon iawn, ac y mae yr Arglwydd gyda William Evan." David Williams, Rhyd, tad y brodyr sy'n flaenoriaid yn bresenol, a fu yn dra gwasanaethgar gyda chaniadaeth y cysegr am dymor maith, a bu yn arwain y canu am ddeugain mlynedd, ac yn ffyddlon iawn gyda rhanau eraill y gwaith. Bu Richard Jones, tad y Parch. W. R. Jones, Caergybi, yn arwain y canu o'i flaen; a bu ei fam yn cadw tŷ capel Siloam, ac wedi hyny yn cadw tŷ capel Tanygrisiau. Richard Jones, y Llan, hefyd a'i deulu a fuont yn ffyddlawn iawn i'r achos yma. Y blaenoriaid fuont feirw ydynt:—

WILLIAM LEWIS, HAFOTTY.

Crybwyllwyd am dano eisoes fel cychwynydd yr Ysgol Sul, a'r hwn nad oedd am ildio i roddi yr achos i fyny yn yr hen Felin. Efe oedd blaenor cyntaf yr eglwys. Yr oedd ganddo y llaw benaf hefyd mewn sefydlu yr eglwys. I'w ran ef y disgynodd y gwaith o fod yn gyhoeddwr cyntaf. Gŵr selog ac ymroddgar iawn ydoedd gyda holl ranau y gwaith.

ROBERT HUGHES, BRYNLLYDAN.

Efe oedd y nesaf at W. Lewis, a bu y ddau yn cyd-oesi am beth amser, ond bu R. Hughes fyw yn hir ar ol ei gyd-flaenor, a bu holl bwysau y gwaith arno am ysbaid maith. Daethai yma o Rydyclafdy. Yr oedd yn dad i Morris a William Hughes, Brynllydan. Rhagorai ef ar lawer yn ei amser, gan ei fod yn ddyn egwyddorol a gwybodus, yn meddu ar ddawn yn gystal a gwybodaeth, ac yr oedd yn llawn sel gyda chrefydd. Bu farw yn y flwyddyn 1849.

WILLIAM ROWLAND, GARTH FOEL.

Yr oedd ef yn dad i Manoah Williams, Croesor, ac yn daid i Miss Williams, y genhades i Sylhet. Dywed Alice Llwyd,