Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/211

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
Oriel (gallery) yn 1878 — £547 1 7
Ysgoldy y Rhyd yn 1872 — £190 0 0
— £2030 1 5

Nid oes o'r swm hwn heb ei dalu yn bresenol (1889) ond 150p. Yn y flwyddyn 1888, hefyd, adeiladwyd yma dŷ prydferth a chyfleus i'r gweinidog, ac y mae hyn yn gryfder mawr tuag at sefydlogrwydd a pharhad yr achos. Mae yr hen gapel, yn unol a chaniatad y Cyfarfod Misol, Mehefin, 1866, wedi ei droi yn dri o dai.

Ar ol bod yn daith dros ryw gymaint o amser yn y dechreu gyda'r Penrhyn a Maentwrog, y daith wedi hyny am flynyddau lawer oedd y Penrhyn a Llanfrothen. Am bedair neu bum mlynedd ar ol y diwygiad (1859), bu Llanfrothen a Maentwrog gyda'u gilydd. Ar ddechreu 1864, ymunodd y lle yn daith gyda Chroesor, fel y mae hyd yn bresenol.

Yn ychwanegol at y rhai a enwyd eisoes o ffyddloniaid cyntaf yr eglwys, ac heblaw y rhestr a geir eto o'r blaenoriaid, crybwyllir am eraill a fuont ffyddlon gyda'r achos yma Yn y Felin yr oedd Gwen Edmund yn un o'r rhai amlycaf. Dywedir mai Gwen Jones, Pen'rallt, a Sian Owen, Dinas (Pen'rallt wedi hyny), oedd y ddwy ffyddlonaf o'r chwiorydd. Yr oedd Sian Owen, a Sian Jones, y Llan,—dwy ferch ieuainc ar y pryd gyda'u gilydd ar y maes yn Sasiwn Caernarfon yn gorfoleddu ac yn neidio pan yr oedd Ebenezer Morris yn pregethu y bregeth ar "Y gwaed hwn a wna gymod dros yr enaid," a gorfeleddent yr holl ffordd nes cyraedd adref. Hugh Sion, y Morfa, oedd wr duwiol a ffyddlon. Dafydd Sion, Ysgoldy, tyddai yn goleu canhwyllau yn yr hen Felin, ac yn cadw yr amser yn y Ceunant hyd ei farwolaeth. Byddai yn nhŷ y capel fel y cloc, yn rhoddi y gorchymyn ar y fynyd briodol, "Mae yn amser dechreu." Pan yn dewis blaenoriaid