Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/210

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'r boblogaeth yn deneu, ac oherwydd hefyd i'r Bedyddwyr gymeryd meddiant o'r lle, bu y Methodistiaid yn hir cyn enill llawer o nerth yma.

Oddeutu yr amser yr ymadawodd y Parch. Richard Jones o'r Wern, symudodd yr achos o'r hen ysgoldy i le a elwir y Ceunant, a'r lle y mae yr achos ynddo hyd heddyw. Adeiladwyd yma gapel, a galwyd ef wrth yr enw Siloam. Dyddiad y weithred am y capel hwn ydyw Rhagfyr, 1833. Cafwyd y tir gan deulu yr Hengwrt, gerllaw Dolgellau. Talwyd 150p. am dano. Wrth ystyried fod yn y lle dafarndy yn flaenorol, a bod y tir (premises) dipyn yn helaeth, nid yw y pris yn ymddangos yn uchel. Cynwysai y capel hwn eisteddleoedd i 100, ac adeiladwyd dau o dai mewn cysylltiad ag ef. Rhif yr Ysgol Sul pan y symudwyd hi yma oedd 144. Ni wyddis beth oedd cyfrifon eraill yr eglwys ar y pryd. Y blaenoriaid, sef Robert Hughes, Brynllydan; William Rowland, Garth Foel; ac Owen Pierce, oeddynt yn flaenllaw gydag adeiladu y capel hwn. Arosai dyled o 250p. ar y lle, heb ddim yn cael ei wneuthur tuag at ei chlirio trwy y blynyddau. Ymhen amser, helaethwyd y capel, trwy roddi un o'r tai ato, a thuag 1858 dechreuwyd casglu yn yr Ysgol Sul, ac yr oedd y cwbl wedi ei dalu cyn pen saith mlynedd. Prynwyd darn ychwanegol o dir yn 1865, am 12p. Adeiladwyd y capel hardd presenol, yr hwn sydd yn addurn i'r ardal, yn 1866, ac agorwyd ef yn Mehefin y flwyddyn hono, pryd y pregethwyd gan y Parchn. David Davies, Abermaw; Josuah Davies (Birkenhead y pryd hwnw); D. Saunders, D.D.; a Joseph Jones, Borth. Dengys y ffigyrau canlynol ffrwyth yr eglwys yn ei chasgliadau at capel y deng mlynedd ar hugain diweddaf,—

Dyled yr hen gapel — £250 0s 0c
Y capel presenol yn 1866 — £1042 19s 10c