Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/209

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hon oedd yn enedigol o Lanfrothen) a Llyfr Hymnau Richard Jones o'i blaen, ac yn hwmian canu ei benillion wrthi ei hun; a darfu ei syniadau uchel hi am dano, a'r mynych sylwadau a glywem yn ein cartref am ei ragoriaethau, ymysg y pethau cyntaf erioed a ddisgynodd ar ein clustiau, beri i ni feddwl nad oedd geiriau yn yr iaith Gymraeg mwy cysegredig na'r "Wern " a "Richard Jones." Ystyrid ef fel tad yr achos crefyddol yn hen Felin y Wern. Diwrnod du i Lanfrothen oedd diwrnod ei symudiad oddiyno. Hyny, modd bynag, a fu, a llawer a geid yn proffwydo, y byddai farw yr achos yn yr ardal wed'yn. Yn rhestr gweinidogion Sir Feirionydd am 1832, ceir ei enw fel Richard Jones, Talsarnau. Symudodd ef a'i deulu i fyw i Rhosigor, yn yr ardal hono, ac ymhen oddeutu wyth mis, sef Chwefror 26ain, 1833, bu farw. Y mae ei feddrod ef a'i briod i'w weled wrth dalcen dwyreiniol eglwys blwyfol Llanfrothen.

Dylid dweyd gair am y brodyr y Bedyddwyr. Cawsant hwy y fraint o ymsefydlu yn yr ardal hon lawer o flynyddoedd o flaen y Methodistiaid. Yr oedd ganddynt achos wedi ei ffurfio, a chapel wedi ei adeiladu, sef Ramoth, Brondanw, er y flwyddyn 1787. Bu gweinidog o'r enw David Hughes, gŵr o'r Deheudir, yn gweinidogaethu yma oddeutu y pryd hwn. Ar ei ol ef y daeth y Parch. John Richard Jones, yr hwn a adnabyddid fel yr enwog "Jones o Ramoth." Neillduwyd ef i'r gwaith Tachwedd 4ydd, 1789. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd, yn fardd gwych, ac yn llenor da. Hynodid ef fel arweinydd y Bedyddwyr Albanaidd yn Nghymru. Tua diwedd 1801, galwyd cynhadledd o'r holl siroedd i Ramoth, i benderfynu y dadleuon oeddynt ar y pryd wedi codi yn yr enwad. Wedi yr ymraniad, llafuriodd John Jones yn ddiwyd gyda'i blaid hyd derfyn ei oes, a bu farw Mehefin 27ain, 1822, yn 56 mlwydd oed.[1] Ar gyfrif fod yr ardal yn wasgaredig,

  1. Ysgrif yn y Traethodydd, Medi, 1889, gan y Parch. E. Roberts, Dyffryn.