Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/208

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mawr, cadarnhawyd y brodyr oedd ychydig yn flaenorol yn ddigalon, a chynyddodd yr eglwys lawer yn ei rhif. Ni soniwyd am fyned yn ol i'r Penrhyn byth wedi hyn. Gwnaethpwyd pethau rhyfedd a grymus trwy yr efengyl, er argyhoeddi pechaduriaid ac adeiladu y saint, yn hen Ysgoldy diaddurn y Wern, ac yn yr "ardal ddistadl hon."

DYFODIAD Y PARCH. RICHARD JONES I FYW I'R WERN.

Yn mhoethder diwygiad Beddgelert, neu feallai yn agos i'w derfyn, sef yn y flwyddyn 1819, y symudodd y gŵr enwog hwn o Sir Gaernarfon, i fyw i'r Wern, Llanfrothen. Rhoddodd enwogrwydd ar y lle, ac fel Richard Jones, y Wern, yr adnabyddir ef hyd heddyw, er na bu ei arosiad yno ond ychydig dros ddeuddeng mlynedd. Yr oedd y Felin, y lle a wnaethid ryw bum' mlynedd yn flaenorol yn ysgoldy, yn ymyl ffermdy enwog y Wern. Llawenydd digymysg i'r frawdoliaeth egwan oedd dyfodiad y fath deulu i fyw yno. Siriolodd a chefnogodd pob peth yr achos ar unwaith. "Ei dŷ," ebai ei fywgraffydd, "dros yr amser y bu yn y Wern, oedd cartref yr achos crefyddol yn yr ardal." Trwy ei gysylltiad eang â'r Cyfundeb, bu yn foddion i gael prif enwogion De a Gogledd yno i bregethu. Ac oddiyma bu yntau yn teithio, tra yn nghyflawnder ei addfedrwydd, i'r Cyfarfod Misol a'r Cymanfaoedd, ac i'w deithiau trwy amrywiol siroedd Cymru. Yr oedd Sir Feirionydd wedi ei chyfoethogi yn fawr trwy ei ddyfodiad ef iddi i fyw. Tra yn aros yma yr ysgrifenodd ac y cyfansoddodd lawer o'i weithiau, ac yn eu plith ei lyfr rhagorol, "Drych y Dadleuwr." Dywedai rhyw hen chwaer pan ddaeth y llyfr hwn allan, "'Doedd ryfedd na ddeuai rhywbeth oddiwrtho, yr oedd yn yr hen lofft yna er's digon o amser." Afreidiol yw dweyd iddo adael argraff ddofn a pharhaol ar y gymydogaeth a'i thrigolion, er eu diwyllo a'u crefyddoli. Laweroedd o weithiau, yn nyddiau ein plentyndod, y gwelsom ein mam (yr