Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/207

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

(cyn amser y Parch. Richard Jones) fwyd i'r pregethwyr. Cyn hir, dechreuodd y brodyr yn y Penrhyn oeri yn eu zel, a deuent yn anamlach i'r Wern, i gynorthwyo gyda'r cyfarfod eglwysig. Parodd hyn i'r ddiadell fechan lwfrhau, a phenderfynwyd mai ly peth doethaf iddynt oedd dychwelyd yn ol i'r Penrhyn, a bod yn aelodau yno fel cynt. Ond y noson wedi gwneyd y penderfyniad hwn, cafodd yr hen frawd William Lewis weledigaeth hynod gysurlawn. Gwelai yn ei freuddwyd ragolygon disglaer i'r eglwys yn y Felin. Cododd yu llawen gyda'r wawr dranoeth, ac aeth i Brynllydan i adrodd ei weledigaeth i Robert Hughes (ei gyd-flaenor). "Ro'wn ni mo'r goreu iddi eto, Robin,' meddai wrth Robert Hughes, 'gei di wel'd y daw gwawr ar ol hyn.' Effeithiodd hyn i'w tawelu i beidio dychwelyd i'r Penrhyn, a chyn pen hir, sylweddolwyd yn llwyr weledigaeth William Lewis yn niwygiad Beddgelert, sef y diwygiad a fu trwy y wlad yn y flwyddyn 1818."[1] Gan fod yr ardal hon yn taro ar ardal Beddgelert, cafodd brofi effeithiau yr ymweliad grymus hwnw yn un o'r manau cyntaf. Cynhelid cyfarfodydd brwd mewn lle o'r enw Talyrni, heb fod ymhell o derfynau y ddau blwyf. Un Sabbath, tra yr oedd ieuenctyd cymydogaeth Llanfrothen wedi ymgynull i fyned trwy y chwareuon arferedig yn y wlad, ebai un o'r chwareuwyr (Dafydd William, Caeglas, mab William Lewis), "Ddowch chwi i'r Llyrni, gael i ni gael eu gweled yn gorfoleddu?" Cyn diwedd y cyfarfod cafodd y gŵr hwn ei argyhoeddi, a bu yn Gristion gloew, ac yn weithiwr ffyddlon gyda chrefydd o hyny allan. Cyn hir ar ol hyn, yr oedd y Parch. Dafydd Rolant, y Bala, yn yr hen Felin yn pregethu pregeth "Y Milgi," a bu gorfoledd a helynt anghyffredin yn y lle. Canlyniad yr ymweliad hwn oddiwrth yr Arglwydd oedd i'r achos crefyddol dderbyn cyfnerthiad

  1. Yr Adroddiad am yr Ysgol Sabbothol, gan Mr. E. Williams.