Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/218

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

erbyn Ebrill 1866. Pregethwyd ar yr ail agoriad gan y Parchn. Thomas Charles Edwards, M.A., D.D., a Robert Roberts, Llangeitho. Dangoswyd haelioni arbenig gan y gynulleidfa a'r eglwys hon o'r dechreuad. Costiodd y capel cyntaf a'r tŷ, ynghyd ag adeiladu yr ail waith, a'r adeiladau eraill, yn cynwys yr ysgoldy, 1700p. Talwyd yr oll mewn deng mlynedd, ac ar y 30ain a'r 3lain o Awst, 1873, cynhaliwyd cyfarfod jiwbili, pryd y pregethwyd gan y Parchn. L. Edwards, D.D., Bala; Evan Phillips, Castellnewydd Emlyn; a D. Jones, Llanbedr.

Cafwyd arian y coed a werthwyd ddwy flynedd yn flaenorol, sef 13p. 6s. 4c., fel y ffynhonell gyntaf tuag at dalu y ddyled. Yr unig gasgliad neillduol ydoedd yr un a wneid yn fisol yn yr Ysgol Sabbothol. Derbynid swm da yn y dull hwn o fis i fis, ac yn wir, mae yr ysgol wedi bod yn allu cryf yn yr ardal i gasglu llawer o arian.

Y GYMDEITHAS ARIANOL.

Un ffordd i glirio y ddyled, a hono yn un dra effeithiol, ydoedd trwy gyfrwng y Gymdeithas arianol. Bu y gymdeithas hon yn fendith fawr i'r ardal, ac yn gefn i'r achos hyd heddyw. Mae y trysorydd a'r ymddiriedolwr cyntaf yn para yn ei swydd eto. Amser yn ol, rhoddodd ef ganoedd o bunau ynddi ei hun, a bu yn foddion i gael canoedd gan eraill, a'r oll yn ddilog. Gwnaeth y gymdeithas ddaioni anrhaethol i'r bobl, trwy eu dysgu i gynilo, a thrwy ei hofferynoliaeth hi, talwyd pob gofynion heb dalu yr un ddimai o lôg.

Yn y flwyddyn 1872, adeiladwyd yma ysgoldy dyddiol. Ymgymerodd yr Ysgol Sabbothol â chasglu yn fisol i dalu y rhan fwyaf o ddyled hwn eto, ac i gynal yr ysgol ddyddiol, hyd nes y ffurfiwyd Bwrdd Ysgol yn y plwyf, Hydref, 1877. Parhaodd ffyddlondeb a haelioni yr eglwys drachefn dros rai blynyddau, fel, erbyn 1883, yr oedd ganddi yn y Bank y swm