Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/219

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o 220p. 16s. 10c., a hyny wedi dwyn yr achos ymlaen yn anrhydeddus. Ond cwynir erbyn hyn nad yw mor hawdd cael y bobl i gyfranu ag ydoedd amser yn ol.

Pan adeiladwyd y capel yn 1863, ffurfiwyd Croesor yn daith gyda Llanfrothen (Siloam), ac felly mae yn para hyd yn awr. Nifer y cyflawn aelodau ar sefydliad yr eglwys y flwyddyn ddilynol oedd tua 25. Cynyddodd y nifer yn fuan i 100, ac ni fu fawr uwchlaw hyny o gwbl. Anfonwyd cais gan y brodyr i Gyfarfod Misol Ionawr, 1864, am ganiatad i fod yn eglwys arnynt eu hunain, ar wahan i Siloam. Gwrthodwyd rhoddi caniatad yn y cyfarfod hwn, eithr anogwyd hwy i barhau dan aden y fam eglwys; edrychid arnynt yn ychydig o nifer, a chyffelybid hwy ar y pryd i Gwm Nancol. Ond yn Nghyfarfod Misol Ebrill, yr un flwyddyn, wedi cael adroddiad calonogol am agwedd yr achos, a deall fod rhagolygon am gynydd yn yr ardal, "penderfynwyd yn unfrydol fod i'r brodyr yn Nghroesor gael ymffurfio yn eglwys, a chael gweinyddiad o'r holl ordinhadau yn eu mysg." Y mae hanes yr eglwys hon wedi ei gadw yn gyflawn a chryno o'r dechreuad. Perthyna i'r eglwys lyfr, yn yr hwn y ceir crynhodeb o hanes crefydd yn y gymydogaeth yn ysgrifenedig, ynghyd a'r prif symudiadau a'r digwyddiadau am bob blwyddyn, o 1863 i 1883, wedi eu casglu gan Mr. W. T. Williams, yn awr o'r Rhyd-ddu. Pwy bynag a ewyllysia wybod y manylion, byddant i'w cael ond troi i mewn i'r llyfr hwn. Robert Anwyl oedd gymeriad a hynodrwydd mawr yn perthyn iddo. Argyhoeddwyd ef yn amser diwygiad Beddgelert: bu farw Mai 13eg, 1875, yn 88 oed. Ceir bywgraffiad o hono yn y llyfr crybwylledig. Sabbath, yr 16eg o Orphenaf, 1865, y cynhaliwyd y cyfarfod ysgolion cyntaf yn y lle; yr holwyddorwr ydoedd y Parch. Robert Parry, Ffestiniog. Ebrill 2il a'r 3ydd, 1867, y cynhaliwyd yma Gyfarfod Misol am y tro cyntaf, Cludwyd y dieithriaid i fyny o Borthmadog ar hyd