Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/220

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y tram-road a'r inclines. Pregethwyd gan y Parchn. D. Evans, M.A., Dolgellau; D. Davies, Abermaw; Francis Jones, Aberdyfi; Edward Morgan, Dyffryn; O. Jones, B.A., Bethesda; N. C. Jones, Penrhyn; Jno. Davies, Bontddu; Wm. Davies, Llanegryn. Elai a gormod o le i gofnodi y pethau a gymerasant le bob blwyddyn yn olynol.

RHESTR O'R SWYDDOGION.

Daeth Mr. Thomas Williams yma o Blaenau Ffestiniog yn niwedd 1862, i fod yn oruchwyliwr ar chwarel Croesor, a symudodd ef a'i deulu i fyw i Fryn Croesor yn Ebrill y flwyddyn ganlynol. Gwasanaethodd swydd blaenor yn Bethesda amryw flynyddoedd cyn dod yma; ymunodd ag eglwys Siloam, a dewiswyd ef yn swyddog yno, ac efe oedd yr unig swyddog a symudodd gyda'r gangen eglwys ar ei dyfodiad i Groesor. Hysbys ydyw ei wasanaeth a'i weithgarwch ef yn ngwersyllfaoedd y Methodistiaid o hyny hyd yn awr. Gan ei fod yn swyddog effro a llygadog, daeth yr eglwys yn ei hieuenctid ar unwaith i gael ei rhestru yn un o'r eglwysi mwyaf gweithgar yn y sir. Bedair blynedd ar ddeg yn ol, sef yn nechreu 1876, cyflwynwyd tysteb iddo ef a'i briod, amcan yr hon, yn ol y geiriau a geir mewn cysylltiad â'i chyflwyniad, ydoedd, "fel cydnabyddiaeth cynulleidfa Croesor iddynt am eu caredigrwydd i weinidogion y gair, trwy roddi ymborth a llety yn rhad am ysbaid o dair blynedd ar ddeg." A'u tŷ hwy ydyw llety y fforddolion hyd heddyw.

Yn Ngorphenaf, 1864, dewiswyd Mr. John Jones, Cae'r-ffynon, yn swyddog. Gwasanaethodd y swydd yn ffyddlon am ddeng mlynedd. Symudodd oddiyma i fyw i Beniel, Nantmor, yn 1874, ac y mae yn parhau i lenwi yr un swydd yno. Rhagfyr 15fed, 1874, yn un o dri, neillduwyd Mr. G. Evans, ysgolfeistr, yn flaenor. Daeth yma ar agoriad yr ysgol ddyddiol, Ionawr 1af, 1873. Wedi bod yn ddefnyddiol gyda'r