Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/221

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

achos, symudodd i Dalsarnau Ebrill, 1881; ac fel arwydd o barch yr ardalwyr tuag ato cyflwynwyd iddo yntau "anerchiad goreuredig."

BLAENORIAID FUONT FEIRW.

MANOAH WILLIAMS.

Dewiswyd ef yn flaenor Rhagfyr 15, 1874. Bu farw Awst 5, 1883. Yr oedd yn fab i hen flaenor da yn Llanfrothen, William Rolant, Garthfoel. Ganwyd ef yn 1829. Trodd ei gefn ar eglwys Dduw am ychydig, ond nis gallodd fod yn dawel nes y daeth i mewn yn ol. Ymroddodd i wasanaethu crefydd, yn enwedig y rhan olaf o'i oes, a bendithiwyd ef â chrefydd o radd uchel iawn. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, yn weddiwr gafaelgar, ac yn un o athrawon ffyddlonaf yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd yn un nodedig o'r saint i fod yn ei gymdeithas, gan mor barod ac awyddus fyddai i son am grefydd ac achos yr Arglwydd. Yn y tymor byr y bu yn y swydd o flaenor, dangosodd yn amlwg ei fod yn swyddog a wir ofalai am yr achos; "yr oedd gair da iddo gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun."

ROBERT ANWYL.

Neillduwyd ef yn flaenor Rhagfyr 9, 1883, mewn oedran tra ieuanc; ond ni chafodd lanw y swydd yn hir, oherwydd fod afiechyd wedi gafaelyd yn ei gyfansoddiad. Er na chafodd ond ychydig o fanteision addysg, eto trwy lafur personol cyrhaeddodd wybodaeth lled helaeth, ac yr oedd yn gadarn yn yr Ysgrythyrau. Yr oedd yn siaradwr llithrig, a chymerai ran helaeth ymhob cyfarfod crefyddol. Gweithiodd lawer trwy lawer o wendid, ac nid yn aml y gwelwyd neb wedi cyraedd tir mor uchel mewn sicrwydd ynghylch ei gyflwr. Bu farw Chwefror 18, 1887, yn 29 mlwydd oed.

RICHARD JONES.

Yr oedd ef yn un o'r tri a neillduwyd Rhagfyr 15, 1874,