Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/224

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn bur ddigalon ar eu ffordd yno, rhag i'w cais fyn'd yn fethiant. Meddai W. Jones, "Tybed y llwyddwn ni?" "Mae arna' i ofn na wnawn ni ddim," meddai G. Ellis. "Gadewch i ni fyn'd yno i dreio," meddai O. Dafydd, "os na chawn laeth, fe gawn y piser," ac ymlaen yr aethant. Ond derbyniad lled oeraidd a roddwyd i'w cais. Ond digwyddodd fod y Parch. W. Thomas, brawd y Parch. Robert Thomas, Llidiardau, yn y cyfarfod, yr hwn, ar y pryd, oedd yn adeiladu capel Bethesda. "Frodyr bach," ebe y gŵr hwn, "dylech, ar bob cyfrif, wrando ar gais y cyfeillion." Felly, trwy ei gyfryngiad ef, llwyddasant; a'r Sabbath canlynol, daeth dau frawd o'r Neuadd-ddu i sefydlu ysgol yn Rhiwbryfdir, mewn lle a elwid Pant-y-lleidr, yr hwn le sydd er's talm wedi ei gladdu dan rwbel y chwarel. Y flwyddyn y sefydlwyd hi, daeth gwr o'r enw W. Williams (Gwilym Peris), i fyw i Talywaenydd, yr hwn, ynghyd a'i wraig, oeddynt yn proffesu crefydd. Yr oedd ef yn fwy galluog na'r cyffredin, a manteisiodd yr ardalwyr lawer trwy ei ddyfodiad i'w plith. Mewn cysylltiad â Bethesda, ceir ei hanes yn gwneuthur cais i ddysgu Gramadeg Cymraeg yn yr Ysgol Sul. Rhif yr ysgol hon, pan yn cael ei sefydlu, ydoedd 46.

Er mwyn gweled beth oedd ansawdd yr achos yn gyffredinol yr adeg yr oedd yr ysgol yn Pant-y-lleidr, nodir y ffaith, ar sail tystiolaeth un o'r hen frodorion, R. Williams, gynt o Conglywal, nad oedd ond oddeutu 40 o aelodau eglwysig perthynol i'r Methodistiaid yn yr oll o Flaenau Ffestiniog. Bu ysgol lewyrchus, wedi hyn, yn y Mynachlog. Ar ol colli y lle hwn, buwyd gydag un o'r enw Mr. Homfray, yn ymofyn am le i adeiladu ysgoldy, a dywedir i hyny gael ei ganiatau. Aeth y brodyr yr Annibynwyr ato gyda'r un neges, pryd yr atebodd yntau, "Fi wedi rhoi lle. Chi myn'd at eich gilydd. Chi am fod hefo'ch gilydd yn y nefoedd, chi bod gyda'ch gilydd ar y ddaiar hefyd." Ni adeiladwyd ysgoldy, fodd