Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/225

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bynag, gan y naill na'r llall. Bu yr ysgol yn crwydro o dŷ i dŷ am yn agos i ugain mlynedd. Nodwedd arbenig yn perthyn i'r Ysgol Sul yn y gymydogaeth hon oedd, y byddai llawer iawn o weddio ar yr Arglwydd ar ei rhan. Bob haf, am flynyddoedd, byddai cyfarfodydd gweddio yn cael eu cynal ar gylch yn y tai, am chwech o'r gloch boreu Sabbath, ac yn ystod y gauaf, ar noson waith. Teimlai yr ychydig broffeswyr oedd yn Cwm y Rhiw, hefyd, yn ddwys dros eu cymydogion dibroffes. Cynhelid cyfarfodydd ganddynt, y rhai y gellid eu galw yn seiat, i'r diben o adrodd eu profiadau gyda gwaith yr ysgol. Yn un o'r rhai hyn, profiad un o'r hen frodyr ydoedd, "O frodyr, gweddiwch drosom." "Wel," meddai yr hen frawd John Jones, o Dolyddelen, "Rhaid i ti weddio dy hun yn gyntaf, Evan. Dydi o ddim diben i ti geisio gan eraill wneyd hyny drosot, heb i ti weddio dy hun yn gyntaf." I hyn yr atebwyd gan y chwaer Ellin Williams. Tai'rfrest, "Mae yn debyg, John Jones, ei fod wedi dechreu gweddio ei hun, cyn y buasai yn ceisio gan eraill i wneyd hyny drosto."[1]

Yn 1842, cafwyd lle pwrpasol i gynal yr ysgol trwy adeiladu Ysgoldy y Dinas. Yr oedd cymydogaeth y Rhiw y pryd hwn o dan nawdd yr achos yn Nhanygrisiau, ac felly arnynt hwy yno y disgynodd y draul o adeiladu. Cynyddodd yr ysgol yn fuan wedi myned i'r adeilad hwn, i 143. Yn Awst 1848, sefydlwyd cangen ysgol drachefn yn Talywaenydd, a G. Williams, ieu., wedi hyny, y Parch. G. Williams, Talsarnau, oedd un o'r rhai a osodwyd i ofalu am yr ysgol hon. Dywediad y gwr parchedig mewn cysylltiad â hyn ydoedd, "Y bydd i bwy bynag a ymgymero â gofalu am gornelau fel y daeth i'w ran ef gyda'r ysgol, wneyd lles i eneidiau anfarwol." Adeiladwyd y capel cyntaf, yr hwn a adnabyddir yn awr fel Hen Gapel y Rhiw, yn 1856, pryd y ffurfiwyd yr eglwys. Ei rhif ar y cychwyn ydoedd 100. Cyn pen pedair blynedd, mae

  1. Adroddiad yr Ysgol Sabbothol, gan Mr. T. J. Roberts, Ael-y-bryn.