Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/227

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar y cyntaf yr oedd Rhiw a Thanygrisiau yn un daith. Yn Nghyfarfod Misol Medi, 1864, rhoddwyd caniatad iddynt fyned yn ddwy daith.

Prif nodweddion yr hen grefyddwyr yn Nghwm y Rhiw ydoedd, sel, ffyddlondeb, a duwioldeb amlwg. Er i nifer mawr o frodyr, y tu allan i'r swyddogaeth, weithio yn rymus gyda'r achos yma o'r cychwyn, ni chaniata terfynau yr hanes i nodi ond ychydig engreifftiau o'r rhai hynotaf. William Sion, Trai'rfrest, oedd un o'r pedwar a aeth gyntaf i ymofyn am yr ysgol i Neuadd-ddu. Yr oedd cywirdeb a gonestrwydd gyda chrefydd yn amlwg iawn ynddo ef. Coffheir am un Sabbath hynod yn ei hanes, pan yr oedd ef a'i ddosbarth yn darllen yr ail benod yn Llyfr yr Actau yn yr ysgol. Disgynodd rhywbeth hynod arnynt, nes oedd y dagrau yn treiglo i lawr ar hyd gruddiau yr athraw ac amryw o'r disgyblion, a dyna ddywedodd yr hen dad, "Wel, bobl, dyma ni wedi cael yr Esboniwr Mawr ei hun atom heddyw. Pe caem yr esboniwr hwn gyda ni bob amser, gallem yn hawdd esbonio'r Beibl wedy'n." Gŵr duwiol a ffyddlon ydoedd Griffith Williams, tad y Parch. G. Williams, Talsarnau. Dygwyd ef i fyny yn ardal Dolyddelen, ymysg cewri o bregethwyr, sef meibion Tanycastell. Yr oedd ei awyddfryd am lwyddiant y weinidogaeth bob amser yn fawr iawn. Arferai ddweyd nad aeth yr un Sabbath heibio hyd ddiwedd ei oes, byth wedi i'w fab Griffith ddechreu pregethu, na fyddai yn myned a'i achos yn bersonol gerbron gorsedd gras. Hysbysir ei bod yn ffaith yn ei hanes, am yn agos i 50 mlynedd y bu yn gweithio yn y chwarel, nad aeth ond unwaith o'r tŷ yn y boreu heb gadw dyledswydd deuluaidd, ac iddo y tro hwnw, wedi cael hamdden ar ei ben ei hun yn y Machine, gadw dyledswydd ei hunan. Parhaodd yn iraidd ac ieuanc ei ysbryd hyd y diwedd. William Sion, Soar, hefyd, oedd un o hen grefyddwyr disglaer yr ardal, er y byddai yn bur hawdd ganddo achwyn ar ei grefydd ei hun.