Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/228

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Un noson seiat, aeth y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, yr hwn a ddigwyddai fod yn arwain y cyfarfod, ato, a gofynodd iddo, pa fodd yr oedd yn teimlo gyda'i grefydd erbyn hyn, pryd yr atebodd yr hen frawd, "Yr wyf yn ofni yn fawr, Griffith bach, fy mod hebddi hyd heno." "Onid yw yn beth rhyfedd, fewyrth," ebai G. W., "eich bod wedi dod i'r un farn â ninau am eich crefydd?" Ac meddai yr hen bererin yn ol, "Does genyt ti ddim gwell meddwl na hynyna am fy nghrefydd i, Griffith?" A chyn diwedd yr ymddiddan yr oedd yn grefydd i gyd. Yn ei hen ddyddiau fe wnaeth Mr. Holland ef yn bensioner, ac yr oedd G. Williams, hynaf, wedi ei wneyd felly gan Gwmni y Welsh Slate. Byddai y ddau bensioner ar adegau yn canlyn eu gilydd, ac un tro, pan yr oeddynt yn Pantyrafon, yn cerdded ar hyd y ffordd, meddai G. W. wrth W. S., "Wel di, tyr'd dipyn bach yn mhellach," ac yna hudodd ef o'r ffordd, a gofynodd iddo, "Wel, Wil bach, sut y mae hi arnat ti? A oes genyt ti ddigon o grefydd i fyned oddiyma?" Trodd ei hen gyfaill ato, gan ddywedyd, "Ai dyna dy falais di, Guto, yn dod a fi i'r fan yma, i chwilio fy mhac i, ac i wybod faint o grefydd sydd genyf fi?" Cafodd Griffith Jones, Glanypwll, ac Evan Roberts, eu hargyhoeddi tua'r un adeg. Cyfeiriai y cyntaf bob amser at ryw brydnhawn Sadwrn, pan yn sefyll ar gareg y drws, y daeth yr adnod hono yn rymus i'w feddwl, "Melldith yr Arglwydd sydd yn nhŷ yr annuwiol." Addunedodd gyflwyno ei hun i'r Arglwydd ac i'w bobl, a chyflawnodd ei addewid. A'r Sabbath canlynol ymunodd E. Roberts hefyd â chrefydd. William Jones, Glandwyryd, er heb fod yn swyddog rheolaidd, a wnaeth lawer o waith y swydd. Dywediad un o'r blaenoriaid am dano ydoedd, y byddai yn edrych arno fel dyn wrth gefn. Bu William Jones, Penygroes, yn arwain y canu gyda ffyddlondeb mawr am y chwe' blynedd cyntaf ar ol ffurfiad yr eglwys, ac a fu farw yn anterth ei nerth yn Rhagfyr, 1862.