Mab iddo ef ydyw yr arweinydd galluog ac adnabyddus presenol. John Williams, Tŷ Capel, gynt, a wnaeth ei ran fel disgybl ffyddlon, trwy wasanaethu am dymor hir ar y pregethwyr, a thrwy lafurio llawer gyda'r plant.
Amser i'w gofio yn Nghwm y Rhiw ydoedd adeg y diwygiad grymus yn 1859. Byddai cyfarfodydd gweddiau yn cael eu cynal, dros ryw ysbaid yn flaenorol, ar gylch ar hyd y tai, am 4-30 y Sabbath. Bu dau gyfarfod gweddi tra hynod felly yn Llechwedd a Thalywaenydd, nes ydoedd bron a thori allan yn orfoledd. Am chwech yn yr hwyr, yr un Sabbath, cynhelid cyfarfod gweddi yn y capel (pryd nad oedd yno bregeth), a thystiolaeth pawb oedd yn bresenol ydoedd, fod rhyw ddwysder arbenig iawn ynddo, hyd nes yr oedd amryw bron a cholli eu hanadl. Ar ei ol drachefn cynhelid cyfarfod gweddi y bobl ieuainc, ac yn hwn y dywedir y torodd y diwygiad allan, a hyny tra yn canu yr hen benill, "Fel bo'i mhechod gael ei glwyfo a'i wanhau," yr hwn a ganwyd laweroedd a llaweroedd o weithiau. Yr wythnos ganlynol, o'r 9fed i'r 16eg o Hydref, 1859, yr oedd yn wythnos o weddio ddydd a nos. Llwyr adawai y chwarelwyr eu gorchwylion o'r holl chwarelau, yn ystod y dydd, ac ymgynullent yn dyrfaoedd i Ffriddybwlch (llechwedd o fynydd gerllaw) i gynal cyfarfodydd gweddio, a byddai y capelau yn orlawn o bobl hyd yn hwyr y nos, a "sain cân a moliant," a swn gorfoledd mawr oedd i'w glywed ar hyd y gymydogaeth, trwy yr holl wythnos gofiadwy hono. Bu y diwygiad hwnw o fendith annhraethadwy i'r cymydogaethau hyn. Ychwanegwyd at yr eglwys drwyddo yn y Rhiw yn unig o 100 i 150 o aelodau. Un Sabbath yn fuan wedi hyn, yr oedd y Parch. Daniel Evans, y Penrhyn, yn pregethu yn y Rhiw, gyda hwylusdod a dylanwad pur fawr, oddiar y geiriau, "Yr hwn a'n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni." A'r noson hono, er llawenydd mawr i'r holl fro, arhosodd William Williams, Rhiw House,