Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/230

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

prif oruchwyliwr cwmni chwarel y Welsh Slate, ar ol yn y cyfarfod eglwysig, a'i ateb i'r gweinidog, yr hwn a aeth i ofyn gair iddo, ydoedd, "Ei fod yntau wedi meddwl am gael rhan yn yr etifeddiaeth." A ganlyn ydyw rhestr o swyddogion yr eglwys:—

EVAN ROBERTS

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, fel blaenor yn Nhanygrisiau, Mai, 1842. Efe oedd yr unig swyddog a symudai gyda'r eglwys oddiyno i'r Rhiw. Bu yn swyddog am 44 mlynedd,-14 yn Nhanygrisiau, a 33 yn y Rhiw. Bu farw yn 1886. Arferai ddweyd ei hun iddo fod o dan Sinai am gryn amser yn nechreu ei oes. Ymunodd â chrefydd yn eglwys Bethesda, a bu yn hynod o ffyddlon ar hyd ei yrfa grefyddol. Y mae yn ffaith yn ei hanes na wnaeth esgeuluso gymnaint ag un moddion crefyddol. Meddai ar fedr neillduol i arwain mewn cyfarfodydd eglwysig, ac yr ydoedd yn dda yn ei gynghorion gyda'r amcan o ddiddanu a chadarnhau y saint; ac os byddai angen ceryddu, meddai ar allu i fod yn llym, ac i ddangos y llywodraethwr, a safai yn dyn dros ddisgyblaeth eglwysig. Bu yn hynod o selog gyda'r Ysgol Sul yn y Cwm yn ei blynyddoedd cyntaf, ac yn athraw ynddi cyn bod yn aelod eglwysig. Llanwodd y swydd o arolygwr yr ysgol am flynyddoedd meithion, a gwasanaethodd yr eglwys yn ffyddlawn mewn dilyn Cyfarfodydd Misol. Cerddodd lawer iddynt amser yn ol, gyda mawr sel. Dioddefodd gystudd maith, a bu farw gan ymorphwys ar y Person y cafodd y fraint o'i wasanaethu dros amser mor faith.

HENRY TREVOR ROBERTS.

Ymhen ychydig amser wedi ffurfio yr eglwys yn y Rhiw, symudodd y brawd ieuanc duwiol hwn o Garmel, Llandwrog, i Ffestiniog, i fod yn gyfrifydd yn chwarel Mr. Holland. Codwyd ef yn flaenor yn Llandwrog pan ydoedd yn ddyn ieuanc