Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/232

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

phan yr ymgymerodd a bod yn oruchwyliwr chwarel Mr. Greaves, symudodd i fyw i'r Llechwedd. Bu yn ddiacon gweithgar a dylanwadol yn eglwys y Rhiw am 20 mlynedd, Gweithredodd fel trysorydd yr eglwys, a hyny yn y cyfnod pwysicaf yn ei hanes, ynglyn â thalu dyled y capel, fel yr aeth rhai miloedd o bunau trwy ei ddwylaw yn y Gymdeithas Arianol. Meddai ar synwyr cryf, cymeriad disglaer, a barn addfed, a gallu i'w thraethu yn glir ac argyhoeddiadol. Meddai hefyd ddawn a deheurwydd arbenig i gynghori pobl ieuainc. Dringodd o sefyllfa gweithiwr i fod yn oruchwyliwr ar un o'r chwarelau mwyaf, sef y Llechwedd, eiddo Mr. Greaves. Enillodd y fath ymddiried, fel y dywedai ei feistr am dano wrth y gweinidog a weinyddai yn ei gladdedigaeth, Yr ydym heddyw yn claddu y dyn goreu yn y wlad." Enillodd yr ymddiried hwn o eiddo ei feistr heb golli ymddiried y gweithwyr. Anhawdd ydyw meddwl am oruchwyliwr, cyfaill, a blaenor ffyddlonach. Hoffai fod o'r golwg, ac nid oes neb dynion, ond ei gyd-swyddogion, a allant ffurfio un math o syniad am ei wasanaeth i'r achos. Bu farw Mawrth, 1887.

Neillduwyd Mr. W. Bleddyn Lloyd i'r swydd, ond symudodd, cyn pen hir, i Lanrwst. Y blaenoriaid yn awr ydynt, Mri. G. Jones, T. J. Roberts, Aelybryn, David G. Jones, a G. G. Davies.

Cychwynodd dau i'r weinidogaeth o'r eglwys hon, sef y Parch. R. V. Griffith, yn awr yn yr America, yn Nhachwedd, 1864; a'r Parch. J. O. Jones, yn awr o Lanberis, yn Mehefin, 1867. Mae y Parch. D. Roberts mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys er y flwyddyn 1868. Nifer y gwrandawyr, 712; cymunwyr, 336; Ysgol Sul, 495.

TABERNACL.

Y Tabernacl ydyw un o'r capelau mwyaf a berthyn i Orllewin Meirionydd, ac ynddo yr ymgynillai y gynulleidfa