Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/233

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fwyaf, a'r eglwys liosocaf, yn ystod yr ugain mlynedd o 1870- i 1890. Ac eto mae yn briodol hysbysu ar y dechreu mai Chwefror 14, 1864, yr agorwyd y capel ac y ffurfiwyd achos ynddo gyntaf. Bethesda oedd yn gofalu am grefydd yr oll o'r ochr hon o ardal Ffestiniog yn flaenorol i'r adeg yma... Sefydlwyd Ysgol Sul gan y rhai mwyaf blaenllaw a berthynent i'r achos yn Bethesda, mewn lle a elwid Cloddfa Lord, yn y flwyddyn 1850, ac i hon yr olrheinir dechreuad yr achos yn y Tabernacl.

Mae hanes symudiadau a gweithrediadau yr ysgol hon wedi ei ysgrifenu yn fanwl gan y diweddar John Jones, diacon. ffyddlawn yn eglwys y Tabernacl, ac wedi ei gyhoeddi gan Gyfarfod Ysgolion y Dosbarth am y flwyddyn 1875. Yr oll ellir wneyd yma ydyw crybwyll y prif ffeithiau yn yr hanes, er dangos y modd y daeth y cnewyllyn bychan bob yn ychydig yn eglwys gref a lliosog. Rhif yr ysgol pan yn Lord oedd o 50 i 60, ac yr oedd pawb o drigolion y gymydogaeth yn perthyn iddi oddigerth un neu ddau. Anfonid brodyr o Bethesda i gynorthwyo i'w dwyn ymlaen. Ac nid oes odid yr un o ddynion mwyaf blaenllaw y gymydogaeth yn y cyfnod hwnw na bu ganddo ryw law yn ei hadeiladu. Ond yr un fu ffyddlonaf iddi, y tu allan i gyffiniau uniongyrchol y gymydogaeth, ydoedd John Jones y crybwyllwyd am dano, sef ysgrifenydd hanes yr ysgol. Cynhelid cyfarfodydd gweddio hefyd yn yr un lle ar nos Sul a nosweithiau ganol yr wythnos, a chyfarfodydd eglwysig ar eu hol, a chafodd y bobl flas arnynt, fel y daeth holl ddeiliaid yr ysgol, oddieithr un neu ddau, yn aelodau eglwysig. "Ac yn un o'r cyfarfodydd hyn, yn Plasyndre, y torodd y diwygiad yn y flwyddyn 1859 allan gyntaf yn yr ochr hon i'r gymydogaeth." Gwna John Jones, yn ei ysgrif ar hanes Ysgol Lord, y sylw canlynol:—"Yn yr ysgol hon y cafodd y Parch. R. Owen, M.A., Penal, y cyfle cyntaf neu yr ail i ymarfer ei ddawn fel pregethwr." [Mae y