Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/234

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tŷ lle cynhelid y moddion y Sabbath hwnw er's blynyddoedd wedi ei gladdu o dan domenydd y chwarel]. Symudwyd yr ysgol, oherwydd afiechyd yn y tŷ lle y cedwid hi, o Lord i'r Uncorn, yn agos i Fourcrosses. Ac yn yr Uncorn, mewn dau dy o dan yr un tô, sef tŷ Humphrey Jones a thŷ Griffith Jones, y bu yr ysgol hyd nes y symudwyd hi i'r Tabernacl yn 1864.

Y crybwylliad cyntaf o berthynas i fodolaeth y Tabernacl ydoedd mewn ymddiddan a gymerodd le rhwng hyrwyddwyr yr ysgol, pan yn dyfod i lawr o Lord y Sabbath diweddaf y cynhaliwyd hi yno. Meddyliodd y brodyr i ddechreu am gael ysgoldy, naill ai rhwng Trefeini a Chloddfa Lord, neu yn Fourcrosses. O'r diwedd, syrthiodd eu meddwl ar y lle diweddaf. Anfonwyd dau frawd oddiwrth yr eglwys yn Bethesda John Hughes, Tanygraig House, a Robert Evans, Cae Du-yn ddirprwyaeth at oruchwyliwr Arglwydd Newborough, i ofyn am le i adeiladu, ond aflwyddianus fu eu cais. Anfonwyd cais yr ail waith at yr uwch-oruchwyliwr, Mr. Elias, o'r Abbey, ger Llanrwst, yr hwn yn serchog iawn a roddodd bob cefnogaeth i'r symudiad, ac anogodd y cyfeillion i wneyd cais, nid am ysgoldy, ond am gapel ar unwaith, gan yn sicr y byddai ei eisiau, a hyny yn fuan. Wedi disgwyl, pa fodd bynag, yn bryderus am amser, "derbyniwyd atebiad i'r perwyl fod Arglwydd Newborough yn gwrthod y cais." Credid mai teimlad sectaidd oedd wrth wraidd y gwrthodiad. Dyma yr eglurhad paham na buasai y capel wedi ei adeiladu yn Fourcrosses, lle yr oedd llawer yn credu y pryd hwnw mai y fan hono yr oedd ei le. Gwnaed cais y drydedd waith, trwy Mr. John Vaughan, Tanymanod, i gael lle i adeiladu yn y fan agosaf a ellid i Fourcrosses. Aeth y cais hwn drachefn yn fethiant. "Wel," ebe Mr. Vaughan, " yr oll yn ychwaneg a allaf ei wneyd ar eich rhan yw cynyg yr eiddof fi fy hun i chwi yn y cyfeiriad yna." Y canlyniad a fu, derbyn y cynygiad hwn, a sicrhawyd y tir trwy bryniad. Penderfynwyd i'r capel fod yn 63 troed-