Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/235

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fedd wrth 51 oddifewn. Dewiswyd Mr. Ellis Williams, Porthmadog, yn gynllunydd, a derbyniodd ei gynlluniau gymeradadwyaeth y pwyllgor, a'r Cyfarfod Misol hefyd a gynhaliwyd yn Nhrawsfynydd, Medi, 1861. Wedi cael rhai siomedigaethau ynglyn â'r adeiladu, dygwyd y gwaith i ben, ac megis yn yr anialwch gynt "Codwyd y Tabernacl."

Sabbath, Chwefror 14, 1864, y cynhaliwyd gwasanaeth crefyddol ynddo gyntaf, a'r ysgol am ddau o'r gloch. Dechreuwyd y gwasanaeth gan Mr. Richard Williams, Hafodlas (gynt o Lwynygell). Am chwech yn yr hwyr, daeth cynulleidfa Bethesda oll yma, a phregethwyd gan y Parch. Thomas Gray. Y Sabbath canlynol, pregethwyd ynddo gan y gweinidog, y Parch. Owen Jones, B.A., a'r Parch. Evan Roberts, yn awr o'r Dyffryn. Chwefror 28, cynhaliwyd cyfarfod i agor y capel, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Thomas Hughes, Caernarfon, E. Morgan, Dyffryn, a Dr. Parry, Bala. O hyny hyd yn awr, y mae wedi bod yn daith gyda Bethesda, a dau bregethwr yn gwasanaethu bob Sabbath. Ymadawodd o aelodau o Bethesda i'r Tabernacl 170. Ar ddiwedd y flwyddyn 1864, yr oedd eu rhif yn 213; yr Ysgol Sul yn 315; y gwrandawyr yn 420. Bu cynydd cyson ar yr achos hyd 1877, pryd yr ymadawodd rhan o'r gynulleidfa o'r eglwys i Garregddu. Cyn yr ymraniad hwn, rhifai y cymunwyr 560; Ysgol Sul 825; gwrandawyr 1100. Bu Bethesda yn dra charedig wrth eglwys y Tabernacl ar ei chychwyniad. Yr oeddis wedi casglu yr yr Ysgol Sul yno, a chan gyfeillion eraill, uwchlaw 500p., yr hyn a gyflwynwyd i'r Tabernacl tuag at ddechreu byw. Rhoddodd Bethesda, hefyd, yr oll oedd yn y Gymdeithas Arianol i'r frawdoliaeth pan yn ymadael, ac yr oedd ynddi, ar y pryd, o 1300p. i 1500p., fel nad oedd raid iddynt dalu dim llog ar y ddyled oedd ar y capel.

Er cael golwg ar haelioni a gweithgarwch yr eglwys, mae y ffeithiau canlynol wedi eu casglu ynghyd, y rhai ydynt yn dra