Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/236

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dyddorol. Costiodd y tir, a'r capel, a'r tai, dros 3700p. Gwariwyd hyn y blynyddoedd cyntaf. Yn 1869, rhoddwyd gallery ar y capel, trwy draul o 550p. Yn 1876, gwariwyd 150p. i wneyd gwelliantau ar y ffordd sydd yn arwain at y capel o gyfeiriad Fourcrosses. Ymhen ychydig wedi hyn, prynwyd darn o dir yn dal cysylltiad â'r ffordd hon gan Gwmni Chwarel y Diphwys, am y swm o 120p. Gan mai eglwys y Tabernacl oedd yn cymeryd y cyfrifoldeb o adeiladu y Garegddu, ac i nifer mawr o'r aelodau symud yno, caniatawyd rhodd arianol iddynt o 300p., yr hyn a dalwyd yn y flwyddyn 1877. Ac ar eu symudiad yno y flwyddyn ganlynol, rhoddwyd 10p. iddynt at y weinidogaeth, a swm cyffelyb i'r eglwys Saesneg yn y Blaenau, oddeutu yr un adeg. Yn y flwyddyn 1881, adeiladwyd ysgoldy at wasanaeth yr Ysgol Sul yn Nhrefeini, a thŷ ynglyn âg ef, ar brydles, ac am ardreth o 1p. 10s. yn y flwyddyn. Y draul gyda hyn, 575p. 17s. 4c. Wedi rhoddi y symiau uchod at eu gilydd, ceir fod dros 5400p. wedi ei wario mewn cysylltiad â'r adeiladu yn y Tabernacl. I gyfarfod â'r ddyled, bu y Gymdeithas Arianol yn fanteisiol iawn i'r achos yma. Nid yn unig arbedwyd talu Hogau drwyddi, "ond caed digon i ffurfio trysorfa wrth gefn, yr hon oedd yn cynyrchu llog er gostwng y ddyled." Y mae clod yn ddyledus i drysorydd y gymdeithas, y diweddar Edward Evans, Fourcrosses, ffyddlondeb a sel yr hwn oedd yn ddiarhebol. Ffordd arall i dalu y ddyled ydoedd gwneuthur casgliad bob Sabbath yn yr Ysgol Sul. Casglwyd, yn y dull hwn, erbyn diwedd 1875, swm yn cyraedd dros 1900p. Mae yr hyn a wnaethpwyd bob blwyddyn i'w weled yn Adroddiad argraffedig Ysgolion Sul y dosbarth am y flwyddyn hono. Mewn canlyniad i'r ymdrechion hyn, ni bu swm y ddyled ond bychan y pymtheng mlynedd diweddaf. Y flwyddyn hon (1890), mae ysgoldy ynglyn â'r capel, ynghyd ag ystafelloedd eraill, yn cael eu hadeiladu, a bernir y bydd y draul oddeutu