Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/237

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

1200p. Adeiladwyd tŷ i'r gweinidog oddeutu yr un amser a'r capel-Bethesda a'r Tabernacl yn gyd-gyfranog i ddwyn y draul. Fel y canlyn y mae rhestr y swyddogion. Ymysg y rhai a symudasant o Bethesda i'r Tabernacl yr oedd dau swyddog, sef John Hughes, Tanygraig House, a David W. Owen, Glandwyryd. Ymadawodd yr olaf, ymhen amser, i Liverpool. Y blaenor cyntaf a ddewiswyd gan yr eglwys oedd John Jones, y Tabernacl, ymhen tua blwyddyn ar ol sefydliad yr eglwys, sef yn 1865. Yn 1873, neillduwyd Mri. Owen S. Jones, John Parry Jones, Llanberis, a Hugh Jones, y Bank. Oherwydd rhyw resymau, gwrthododd y diweddaf weithredu fel swyddog. Ceir crybwylliad am enw Mr. J. Parry Jones mewn cysylltiad âg ysgol y Garegddu. Ni bu ond ychydig flynyddau yn swyddog yn y Tabernacl, gan iddo symud i Lanberis, ac wedi hyny i'r America. Mae Mr. O. S. Jones yn aros eto gyda'r achos. Yn nechreu 1877, dewiswyd Mri. David Jones a J. Parry Jones, U.H., y Bank. Y cyntaf yn aros eto, a'r olaf wedi symud gyda'r eglwys i Garegddu. Trachefn, yn 1883, dewiswyd Mri. Edward Edwards, Gelli, a Kichard Williams, Penybryn Terrace; a hwy, gyda Mr. O. S. Jones, a Mr. D. Jones, ydyw blaenoriaid yr eglwys yn bresenol.[1]

Yn yr eglwys hon y dechreuodd y Parch. Robert Hughes, yn awr o'r Lodge, Sir Fflint, a'r Parch. Edward Joseph, yn awr o Williamsburgh, Iowa, America, bregethu. Daeth y Parch. Owen Jones, B.A., yn weinidog ar eglwysi Bethesda a'r Tabernacl yn Ionawr, 1864, mis cyn agoriad y Tabernacl. Ymadawodd i Liverpool Mehefin, 1872. Dechreuodd y Parch. T. J. Wheldon, B.A., ar ei waith fel gweinidog y ddwy eglwys y Sabbath cyntaf yn Ionawr, 1874, ac y mae yn parhau yn yr un cysylltiad mewn llafur a gweithgarwch mawr hyd yn bresenol.

  1. "Galwyd Mr. J. Morgan Jones yn swyddog, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, Gorphenaf, 1890.