Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/238

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

SYLWADAU COFFADWRIAETHOL.

JOHN JONES.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor yn y Tabernacl, Tachwedd 5, 1865; bu farw Mawath 29, 1888. Cyfeiriwyd ato eisoes fel un o'r rhai blaenaf gyda'r Ysgol Sul a fu yn gychwyniad i'r achos yn y lle hwn. Parhaodd a'i ysgwyddau yn dyn o dan yr arch, ac yn swyddog defnyddiol hyd ei farwolaeth. Yr ydoedd yn wr deallus a phwyllog, a mawr ei ofal am yr achos yn ei holl ranau; yn ddarllenwr cyson, ac yn gadarn yn yr Ysgrythyrau. Byddai yn barod bob amser gydag adnod o'r Beibl ar bob amgylchiad. Ei hoff waith fyddai ceisio dadrys cwestiynau dyrus, a chwilio i wirioneddau mawrion y prynedigaeth. Ymadawodd â gwlad y cystudd mawr ag arwyddion amlwg arno ei fod yn myned i'r orphwysfa dragwyddol.

JOHN HUGHES

Daeth ef yma yn swyddog gyda'r eglwys ar ei chychwyniad; bu farw Rhagfyr 7, 1889. Yr oedd yn fab i un o hen gymeriadau mwyaf gwreiddiol a duwiol y gymydogaeth, sef Samuel Jones, Tanygraig. Wedi ei fagu yn un o'r brodorion, ac yn ngeiriau y ffydd, daeth bob yn dipyn yn un o'r colofnau gyda chrefydd. Gwnaeth ymdrech neillduol tra yn ieuanc i gyraedd gwybodaeth. Bu am dymor yn Athrofa y Bala, a chymhwysodd ei hun i fod yn ysgolfeistr. Gwasanaethodd swydd athraw yr Ysgol Frytanaidd yn Ffestiniog ac yn Sir Fon. Wedi hyny ymsefydlodd fel masnachwr yn ei ardal enedigol. Yr oedd yn wr boneddigaidd ei ysbryd, a chadwai ymhell rhag rhoddi tramgwydd i neb. Eto pan gynhyrfid ei ysbryd, byddai yn eiddigus iawn dros achos yr Arglwydd, ac yn hallt yn erbyn pob arferion drwg. Yn ei gystudd diweddaf cafwyd arwyddion amlwg ei fod yn addfedu i'r wlad well, a gadawodd argraff