Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/240

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

aeth y tŷ yn rhy fach i'w chynal. Yn nechreu y flwyddyn 1872, symudwyd hi i Ysgoldy Brytanaidd Dolgaregddu. Ei nifer pan yn symud oedd 48. Bu y symudiad yn foddion i ychwanegu llawer ati, oblegid cynyddodd yn fuan i 140. Dechreuwyd casglu tuag at adeiladu capel, ac yn mis Ebrill 1875, sefydlwyd Cymdeithas Arianol mewn cysylltiad â'r ysgol.

Ebrill, 1876, nodwyd cyfeillion o'r Tabernacl, mewn cysylltiad â brodyr oeddynt yn aelodau o'r Ysgol Sabbothol Dolgaregddu, yn Bwyllgor Adeiladu. Cafwyd addewidion at y capel o yn agos i 200p. Nid oedd y capel i gynwys mwy na 450, nac i gostio mwy na 1600p.; ond aeth y draul o'i adeiladu, gan ei fod yn un o'r adeiladau goreu a harddaf yn yr ardal, yn 2200p. Yn unol â'r gofal yr oedd eglwys y Tabernacl wedi ei gymeryd gyda'r achos newydd o'r cychwyn, rhoddasant 300p. tuag at adeiladu y capel. Rhoddodd eglwys y Rhiw, hefyd, 150p.; Bethesda, 33p., a Thanygrisiau ryw swm at yr un amcan. Ebrill 25, 1878, ffurfiwyd yr eglwys yn y capel newydd, pryd yr oedd yn bresenol, dros y Cyfarfod Misol, y Parchn. T. J. Wheldon, B.A., D. Roberts, Rhiw; a Mri. Evan Roberts, Rhiw, a John Hughes, Tabernacl. Ymunodd â'r eglwys o'r Tabernacl 117; o'r Rhiw 54; Tanygrisiau 2; Peniel 2; y cyfan yn 175; nifer yr ysgol 225. Y Sabbath canlynol, pregethwyd ynddo y tro cyntaf gan y Parch. T. J. Wheldon, B.A. Mai 6ed a'r 7fed, cynhaliwyd Cyfarfod Misol, yr hwn a ystyrid fel cyfarfod ei agoriad, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Dr. Hughes, Liverpool; R. Roberts, Dolgellau; W. Jones, Trawsfynydd; D. Jones, Llanbedr; W. Jones, Penrhyn; a D. Davies, Abermaw. Costau adeiladu y capel, fel y rhoddwyd hwy mewn cysylltiad â hanes yr achos yn y cyfarfod hwn ydoedd 2500p. Y swm a dderbyniasid erbyn yr un adeg, 1061p., heblaw fod "dodrefn y cysegr" wedi eu rhoddi yn anrhegion gan amryw aelodau o'r Ysgol Sul. Dygwyd treuliau y Cyfarfod Misol hwn gan eglwys y Tabernacl.