Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/241

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mr. J. Parry Jones, U.H., oedd yr unig flaenor a ddaeth gyda'r gangen eglwys o'r Tabernacl. Neillduwyd ef i'r swydd yno flwyddyn yn flaenorol. Dewiswyd Mr. W. Jones, Melbourne Terrace, i weithredu gydag ef y flwyddyn y sefydlwyd yr eglwys, a Chwefror 18, 1879, dewiswyd Mr. R. Rowland, U.H., N. & S. W. Bank (yn awr o Bwllheli), yn flaenor.

Rhoddodd yr eglwys alwad i'r Parch. D. Jones, Llanbedr. Tachwedd 4, 1880, cynhaliwyd cyfarfod ei groesawiad, pryd yr oedd yn bresenol swyddogion eglwysig yr ardal. Yn 1882, ymadawodd oddeutu 50, heblaw plant, i gapel Bowydd. A Mawrth 22, yr un flwyddyn, dewiswyd yn flaenoriaid, Mri. I. Watkins (yn awr o Griccieth), O. Williams, New Market Square; a W. Evans, Maenofferen. Yn 1883, adeiladwyd tŷ i'r gweinidog, a rhoddwyd darn newydd at y capel, yr hyn a gostiodd 1300p. Costiodd y capel a'r tŷ ynghyd oddeutu 4000p. Yn mis Ebrill, 1883, cafwyd ymweliad grymus oddiwrth yr Arglwydd, trwy weinidogaeth y diweddar Barch. Richard Owen, pryd y rhoddodd 70 eu hunain i fyny i Grist, ac yr ymunodd â'r eglwys yn Garegddu 32. Sabbath, Mawrth 23, 1884, ail agorwyd y capel, pryd y pregethwyd gan y Parchn. D. Jones, a Dr. Edwards, Bala, ac y gweinyddwyd yr Ordinhad o Swper yr Arglwydd am ddau o'r gloch. Hwn oedd y tro diweddaf i Dr. Edwards fod yn Mlaenau Ffestiniog. Cynyddodd yr eglwys yn ystod y flwyddyn hon 39.

Mehefin, 1885, penodwyd Mr. J. Parry Jones, U.H., yn arolygwr Ysgol y Plant, sydd yn ymgynull yn yr ystafell o dan y capel, yr hyn a barodd fywyd o'r newydd i'r ysgol hono. Ymgymerwyd â'r Safonau, dygwyd hi i well trefn, a llwyddwyd, i raddau pell, i roddi argraffiadau llednais a boneddigaidd ar feddyliau y plant. Penderfynwyd i'r casgliad ar ddydd diolchgarwch y flwyddyn hon fod at ddyled y capel, a chyrhaeddodd y swm o 37p. Yn 1886, cyrhaeddodd 40p.; yn 1887,