Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/242

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

40p.; yn 1888, 60p. Cesglid yn yr ysgol bob Sabbath, heblaw hyn, gasgliad a gyrhaeddai y blynyddoedd a nodwyd o 75p. i 80p. Swm y ddyled ar ddiwedd 1889 ydoedd 1639p. 4s. 10c. Nifer y gwrandawyr, 636; cymunwyr, 357; Ysgol Sul, 432.

ENGEDI

Capel wedi ei adeiladu yn Llan, Ffestiniog, yn y flwyddyn 1880 ydyw Engedi, ac achos newydd wedi ei ffurfio ynddo y pryd hwnw. Ar ol y rhyfel rhwng Ffrainc a Germani, yn arbenig yn y blynyddoedd 1874—1881, daeth tymor o lwyddiant anghyffredin ar y fasnach lechau, ac mewn canlyniad, bu llawer o adeiladu tai yn Llan, Ffestiniog, megis manau eraill, a chynyddodd y boblogaeth yn fawr yn y cwr agosaf i'r rheilffordd. Y pryd hwn, adgyweiriwyd hen gapel Peniel, ond yn gymaint a'i fod yn lled lawn, ac yn anhawdd cael eisteddle ynddo, cododd awydd yn arbenig ymysg y bobl ieuainc am gael capel yn y rhan o'r gymydogaeth oedd yn myned ar gynydd. Teimlai yr hen frodyr yn gryf yn erbyn codi capel, fel ag i ranu yr eglwys yn Peniel, ond yr oedd y teimlad cyferbyniol yn cryfhau, ac o'r diwedd hwnw a orfyddodd. Wedi cryn lawer o ddadleu, cytunwyd iddo fod yn gapel i gynwys tua 500 i eistedd ynddo. Cymeradwywyd y cynlluniau-eiddo Mr. O. M. Roberts, Porthmadog, gan y Cyfarfod Misol. Gosodwyd y gwaith o adeiladu i Mr. W. Jones, Porthmadog, am oddeutu 2000p. Cynhaliwyd y moddion cyntaf ynddo, Sabbath, Mai 15, 1881. Y nos Lun ganlynol, pregethodd y Parch, Humphrey Williams y bregeth gyntaf ynddo, ac enwyd y capel yn Engedi. Bedyddiwyd hefyd ddau y noswaith hono. Sefydlwyd yr eglwys nos Lun, Mai 23. Daeth 160 o aelodau trosodd o Peniel, o'r rhai yr oedd dau yn flaenoriaid, sef Mri. Ellis Lloyd, a Robert Davies, Hafodfawr. Oherwydd pellder ffordd ac oedran y diweddaf, nis gallai ddyfod ond anaml i'r Llan, fel,