Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/243

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ymarferol, ni feddai yr eglwys ond un swyddog adeg y symudiad. Bu y fam eglwys yn Peniel, modd bynag, yn garedig i gynorthwyo, hyd nes yr ychwanegwyd y nifer. Nos Iau, Gorphenaf 21, 1881, yn mhresenoldeb y Parch. T. J. Wheldon, B.A., a Mr. Robert Jones, Bethesda, fel cynrychiolwyr y Cyfarfod Misol, neillduwyd pedwar yn flaenoriaid, sef Mri. Owen Hughes, H. J. Hughes, Evan Richards, ac Owen Jones. Ymhen ychydig ddyddiau, ymgyfarfu y swyddogion, er gwneuthur trefniadau i gario y gwaith ymlaen. Dewiswyd Mr. O. Jones yn ysgrifenydd cyffredinol, i gasglu y cyhoeddiadau, ac i gyhoeddi y moddion: Mr. E. Richards yn drysorydd cyffredinol, ac amryw eraill i gyflawni gwahanol swyddau, yr hyn a gadarnhawyd gan yr eglwys. Medi, 1884, ychwanegwyd at nifer y swyddogion trwy ddewis Mr. Robert Jones, relieving officer, yn flaenor, yr hwn oedd wedi bod yn gwasanaethu y swydd yn y Dyffryn yn flaenorol. Cynhaliwyd cyfarfod pregethu, yr hwn a olygid yn gyfarfod agoriad y capel, y Sabbath cyntaf yn Hydref, 1881, a chafwyd gwasanaeth y Parchn. Dr. Edwards, Bala; Joseph Thomas, Carno; a J. Elias Hughes, M.A., Llanelwy.

Cyfrif argraffedig cyntaf yr eglwys, yr hwn a wnaed ar ddiwedd 1881, ydyw: gwrandawyr, 389; cymunwyr, 189; Ysgol Sul, 295. Ar ddiwedd 1884: gwrandawyr, 410; cymunwyr, 213; Ysgol Sul, 313. Ar ddiwedd 1889: gwrandawyr, 370; cymunwyr, 210: Ysgol Sul, 281. Y cyfrif a roddir dros fod y gynulleidfa yn llai ydyw, fod cryn nifer o symudiadau wedi cymeryd lle i'r Blaenau.

Mae yr eglwys wedi profi ei hun yn eglwys hynod o weithgar yn barod, ac un prawf o hyny ydyw yr ymdrech a wnaethpwyd ganddi i dalu dyled y capel. Yr oedd cytundeb wedi ei wneuthur yn Peniel, pan yn penderfynu adeiladu Engedi, ar fod y draul yn cael ei rhanu-2 ran o 5 i ddisgyn ar Peniel, a 3 rhan o 5 ar Engedi; ac hefyd fod llogau yr arian