Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/244

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a geid ar log i'w talu yn ol yr un cyfartaledd. Mae y cyfeillion wedi bod yn ddiwyd yn casglu o'r dechreu, a'r flwyddyn ddiweddaf gwnaethpwyd ymdrech neillduol, fel y talwyd dros 300p., a chliriwyd yr holl arian oedd ar log trwy wasanaeth y Gymdeithas Arianol. Ac mae y ddyled ar ddiwedd y flwyddyn 1889 wedi ei thynu i lawr i 854p. 15s. 10c. Canfyddir ffrwyth yr eglwys yn y ffaith fod cyfanswm ei holl gasgliadau, yn ystod yr wyth mlynedd a haner cyntaf o'i hanes, yn cyraedd 2500p.

Daeth y brodyr yn fuan i deimlo en hangen am weinidog, a chyfododd yr ysbrydiaeth gyda hyn i ddechreu oddiwrth y bobl ieuainc. Nos Fercher, Tachwedd 29, 1882, cymerwyd llais yr eglwys yn y mater, pryd y caed fod y teimlad yn unfrydol o blaid y symudiad. Ymhen amser, buwyd mewn yındrafodaeth faith gyda brawd yn y weinidogaeth i ddyfod atynt. Ond wedi hir ddisgwyl, a chyfarfod â siomedigaeth, oerodd y teimlad. Wedi hyn, buwyd mewn rhyw gymaint o drafodaeth â swyddogion eglwys Peniel, gyda golwg ar i'r ddwy eglwys ymuno i gael gweinidog. Aeth y cais hwn drachefn yn fethiant. Ar ddechreu 1886, ail enynodd y sel, a rhoddwyd galwad unfrydol i'r Parch. John Williams, B.A., yr hwn oedd ar y pryd yn efrydydd yn Mhrifysgol Aberystwyth. Nos Lun, Medi 6ed, y flwyddyn hono, cynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad. Yr oedd yn bresenol, ac yn cymeryd rhan yn y cyfarfod, y Parch. Joseph Thomas, Carno, a Mr. Richard Humphreys, Llanbrynmair, dros Gyfarfod Misol Trefaldwyn Uchaf, a'r Parch. T. J. Wheldon, B.A., & Mr. Robert Jones, Bethesda, dros Gyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, ynghyd âg amryw eraill o swyddogion eglwysig. Y mae Mr. Williams yn parhau eto mewn cysylltiad hapus a'r eglwys.

Ag ystyried ieuanged yw yr eglwys, y mae llawer iawn o gyfnewidiadau wedi cymeryd lle eisoes yn ei swyddogion hi. Y mae pedwar o'r blaenoriaid wedi eu symud oddiwrth eu