Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/245

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwaith at eu gwobr, am y rhai y gwneir sylwadau coffadwyiaethol ar y diwedd. Yn Mai, 1888, oherwydd cyfnewidiadau yn y chwarelau, bu raid i Mr. O. Jones symud i fyw i'r Blaenau. Ac yn niwedd 1889, symudodd Superintendent O. Hughes i fyw i gymydogaeth Dimel, gerllaw Corwen. Ba y ddau frawd hyn yn neillduol o weithgar, ac o wasanaeth mawr i'r eglwys yn ei mabandod; a phrawf o serch yr eglwys tuag atynt, a'i chymeradwyaeth o honynt ydoedd, ddarfod i'r frawdoliaeth gyflwyno anrhegion i'r naill a'r llall ar eu hymadawiad. Yn nechreu y flwyddyn 1888, galwyd tri o frodyr ieuainc yn flaenoriaid, sef Mri. H. Jones (yr hwn yw arweinydd y canu er sefydliad yr eglwys), T. R. Jones, Ysgol y Bwrdd, ac E. T. Richards. A hwy eu tri ydyw y swyddogion presenol. Er fod yr eglwys wedi cyfarfod â cholledion trymion, y mae eto yn arddangos llawer o arwyddion bywyd; ac y mae lle i gredu fod yr Arglwydd yn bendithio ei waith yn eu plith.

Y mae un pregethwr wedi cychwyn o'r eglwys, sef Mr. R. H. Evans, yr hwn sydd yn awr yn Athrofa y Bala, ac wedi ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol er's blwyddyn yn ol. Mae y Babell yn gangen o'r eglwys a'r gynulleidfa hon, le y ceir pregeth bob Sabbath er pan adeiladwyd Engedi. I fyny ac i lawr y mae yr achos wedi bod yno y blynyddoedd diweddaf, a llawer iawn o symudiadau wedi cymeryd lle. Cynhelir cyfarfod eglwysig yn yr wythnos, a chyfarfodydd eraill yn achlysurol. Ac yn bresenol, y mae un neu ddau o frodyr o Engedi yn myned yno i gynorthwyo gyda'r Ysgol Sabbothol.

SYLWADAU COFFADWRIAETHOL.

ELLIS LLWYD.

Genedigol oedd ef o Blwyf Llandecwyn. Treuliodd ei oes yn Ffestiniog, fel un o'i hardalwyr tawel a heddychol. Hys-