Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/246

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bysir am un ffaith ddyddorol yn ei hanes, sef mai ei briodas ef oedd y briodas ddirwestol gyntaf a gymerodd le yn Ffestiniog. Symudodd i Beniel yn 1854, lle y bu yn cadw tŷ capel am 14 mlynedd. Dewiswyd ef yn flaenor yn 1874, wedi bod yn gwneuthur gwaith blaenor am flynyddoedd yn flaenorol. Cymerodd ei le yn naturiol fel swyddog ar symudiad yr eglwys i Engedi. Bu farw Ionawr 29, 1883, yn 76 mlwydd oed. Un o hen bererinion Sion ydoedd, a'i grefydd yn gloewi at ddiwedd ei oes. Byddai ei sirioldeb yn fawr bob amser yn nhŷ y capel, a'i wrandawiad yn y cysegr yn astud a chalonogol.

H. J. HUGHES.

Ganwyd ef yn mhentref Beddgelert, yn Medi, 1845. Yr oedd yn fab i John Hughes, Oeddwr, blaenor adnabyddus yn Mheniel, Beddgelert. Pan yn 23 oed, priododd Gwen Jones, Glanwern, Talsarnau, ac aeth y ddau drosodd i America. Tra yno, bu yn wasanaethgar gyda'r achos yn Racine, ac anogwyd ef gan y brodyr i ddechreu pregethu, ond cyn i'r bwriad hwnw gael ei roddi mewn gweithrediad, gorfu iddo, oherwydd sefyllfa ei iechyd, ddychwelyd i Gymru. Ymsefydlodd, ar ei ddychweliad, yn Nhalsarnau, a dewiswyd ef yn flaenor yno yn 1872. Bu yn flaenor wedi hyny yn Nazareth, ac yn Gorphwysfa, Penrhyndeudraeth. Symudodd drachefn i fyw i Lan Ffestiniog, a galwyd ef yn un o flaenoriaid cyntaf Engedi. Ond cymerwyd ef yn glaf yn fuan, a gorphenodd ei yrfa yn Nhachwedd, 1882, yn 37 mlwydd oed. Yr oedd yn ŵr o farn addfed, cadarn yn y Gair a'r athrawiaeth, a galluog i gynghori ac arwain yn eglwys Dduw, a cholled fawr, i bob golwg ddynol, oedd ei golli.

ROBERT DAVIES, HAFODFAWR.

Fel un o'r hen frodorion, ac amaethwr cyfrifol, yr oedd yn wladwr a chymydog hawddgar; ei rodiad yn weddaidd, a'i gymdeithas yn llawn diddanwch. Derbyniwyd ef yn aelod o'r