Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/247

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyfarfod Misol fel blaenor yn Mheniel, yn Medi, 1864. Yr oedd yn un o'r ddau swyddog a symudodd gyda'r eglwys i Engedi. Yr oedd yn nodedig o ffyddlawn yn y Babell, a'r achos yn cael lle mawr ar ei feddwl bob amser. Ymroddodd gyda'r achos yno fel pe buasai yn achos iddo ei hun. Symudwyd yntau o fyd yr anialwch i'r orphwysfa, Ebrill, 1887.

EVAN RICHARDS, GLASFRYN.

Masnachwr parchus ydoedd ef wrth ei alwedigaeth, ac iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Efe ydoedd ceidwad un o'r tai masnachol hynaf yn y plwyf: bu yn arhosol yn yr un lle bron ar hyd ei oes, ac yn hynod o lwyddianus, a gellir dweyd fod byd a chrefydd wedi eu huno yn hanes ei fywyd. Yr oedd o dymer naturiol siriol a charuaidd, ac elfenau cyfeillgarwch yn llinellau amlwg yn ei gymeriad. Bu am dros ddeugain mlynedd yn gwasanaethu yr Ysgol Sabbothol fel ysgrifenydd ac arolygwr, yn Llan Ffestiniog, a hyny gyda deheurwydd mawr, a phrofodd ei hun yn un o'r gweithwyr ffyddlonaf yn eglwys Peniel trwy yr holl flynyddoedd. Yr ydoedd yn ddibetrus yn un o'r cymeriadau hoffusaf a mwyaf gwerthfawr mewn cymdeithas. Y disgybl ffyddlonaf o'r ffyddloniaid, a gweithiwr distaw, diwyd, a diymffrost. Yn haeddianol iawn, dewiswyd ef yn un o'r pedwar blaenor cyntaf yn yr eglwys hon. Hunodd mewn tangnefedd heddychol, Medi 10, 1886, yn 68 mlwydd oed.

BOWYDD.

Dechreuad yr achos yn Bowydd ydoedd, i nifer o frodyr perthynol i eglwysi y Rhiw a'r Garegddu gychwyn Ysgol Sabbothol yn yr Assembly Room. Cynhaliwyd yr Ysgol yno y tro cyntaf Medi 14, 1879, trwy gynorthwy un swyddog o bob un o'r ddwy eglwys uchod, sef Mr. Evan Thomas, o'r Rhiw, a Mr. William Jones, o'r Garegddu. Dewiswyd John R. Jones yn arolygwr, John Owen yn ymwelydd, a John Thomas