Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/249

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwelir fod y draul, rhwng pobpeth, yn cyraedd 2824p. 3s. 2c. A'r hyn a geir wedi ei dalu o'r swm hwn, ddiwedd y flwyddyn hono, ydyw 341p. 6s. 2c.

Agorwyd y capel Ionawr 1, 1882, pryd y pregethwyd gan y Parchn. Dr. Hughes, Liverpool, a Joseph Thomas, Carno. A phregethodd y Parch. D. Roberts, Rhiw, ynddo yn gyntaf, y nos Wener blaenorol. Ionawr 5, cynhaliwyd cyfarfod i sefydlu yr eglwys yn rheolaidd, ac yr oedd yn bresenol, yn cynrychioli y Cyfarfod Misol, y Parch. T. J. Wheldon, B.A., a Mr. W. Mona Williams, yn nghydag amryw o swyddogion yr eglwysi cymydogaethol. Ceir y nodiad canlynol yn Nghofnodion Cyfarfod Misol Abermaw, Ionawr 1882, "Gwnaed yn hysbys fod eglwys wedi ei sefydlu yn ffurfiol a rheolaidd yn nghapel Bowydd, Blaenau Ffestiniog-yr aelodau yn rhifo 140, a'r Ysgol Sul 179, a theimlai pawb yn llawen glywed am hyn." Yn fuan wedi i'r eglwys a'r gynulleidfa ymgasglu yn y capel newydd, y mae y fasnach lechau yn marweiddio, a'r boblogaeth yn lleihau, ac mae yr eglwys yn myned i gyfyngder. Mae y ddyled yn fawr, a'r llogau yn drymion, ac arian yr eisteddleoedd a'r casgliad bron i gyd yn myned i dalu y llogau. Yn y cyfyngder hwn daeth i feddwl nifer o chwiorydd i gynal dosbarth gwnio, a rhoddi ei gynyrch at y ddyled. O'r diwedd, ymunodd y gwahanol eglwysi ar gyfer Sale of Work, canlyniad yr hyn fu clirio 400p. o'r ddyled. Gyda bod hyn drosodd, cynygiodd brawd o eglwys arall, y rhoddai ef 500p. am 3p. y cant, ond cael y cwbl am hyny. Aed o gwmpas, a chafwyd y gweddill. Ac o hyny allan, telir swm sylweddol o'r ddyled bob blwyddyn. Y ddyled yn bresenol ydyw 1868p, 10s. Oc.

Swyddog cyntaf yr eglwys ydoedd Mr. R. Rowland, U.H., y Bank. Daeth ef yma o Garegddu, ar gais y brodyr yn Bowydd, ac anogaeth y Cyfarfod Misol. Yn mis Mawrth dilynol neillduwyd Mr. Robert E Roberts i'r swydd o flaenor.