Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/250

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyn diwedd yr ail flwyddyn ar ol ffurfiad yr eglwys symudodd Mr. Rowland i fyw i Bwllheli. Yn y cyfwng hwn. gwnaethpwyd cais drachefn ar i Mr. Isaac Watkins ddyfod yma o Garegddu, a neillduwyd yntau a Mr. John Owen i'r swydd, Wedi hyny ymadawodd Mr. Watkins, gan symud i drigianu yn Nghriccieth. Yn 1887 galwyd Mr. W. Owen yn flaenor; ac yn ddiweddaf oll neillduwyd Mri. John Evans, Station Master, William Jones (Ffestinfab), a Rowland Edwards, tri wedi bod yn gwasanaethu y swydd mewn eglwysi eraill yn flaenorol. Y mae y Parch. D. Roberts, Rhiw, yn gofalu am yr eglwys fel gweinidog, ac wedi bod yn ffyddlon gyda'r achos yn ei holl gysylltiadau o'r cychwyn.

Nifer y gynulleidfa ar ddechreu 1890, ydyw 498; cymunwyr 239; Ysgol Sul 397.

EGLWYS SAESNEG, BLAENAU FFESTINIOG.

Cychwynodd yr achos hwn yn Ysgol Sul y Tabernacl, lle y dechreuwyd cadw dosbarth Saesneg, ac y caed ambell bregeth yn achlysurol. Yna cafwyd cydsyniad a chynorthwy yr eglwysi Cymreig i gynal achos Saesneg yn hen ysgoldy Garegddu, a thelid 2p. y flwyddyn o ardreth am y lle. Cynhaliwyd moddion cyntaf ar y Sabbath, Gorphenaf 9, 1876, pryd y pregethwyd gan y Parch. T. J. Wheldon, B.A. Arhosodd ychydig nifer yn ol ar ddiwedd moddion yr hwyr, y rhai a ffurfiasant gnewyllyn yr achos. Medi 28ain yr un flwyddyn, cynhaliwyd y cyfarfod eglwysig wythnosol cyntaf, a derbyniwyd Mr. Edwards, Dentist, ynghyd â phedwar eraill, yn gyflawn aelodau, a'r Sabbath dilynol gweinyddwyd yr Ordinhad o Swper yr Arglwydd. Yn Nghyfarfod Misol Rhagfyr y flwyddyn hono, penderfynwyd ar yr hyn a ganlyn,-"Fod yr Achos Saesneg yn Mlaenau Ffestiniog i gael ei neillduo yn eglwys, yn ol dymuniad y cyfeillion yno; a bod y personau canlynol i fyned yno i edrych i reoleiddiad y sefydliad, y Parch. T. J.