Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/251

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wheldon, B.A., Mri. R. Griffith, Ffestiniog, John Hughes, Tabernacl, ac Owen Jones, Fronwen." Cyfrifon argraffedig cyntaf yr eglwys, ar ddiwedd 1876, ydynt,-gwrandawyr 75; cymunwyr 20; casgliad at y weinidogaeth mewn 24 o suliau, 27p. 19s. 24c. Yn 1878, dechreuwyd symud ymlaen i gael capel, ac i sicrhau gwasanaeth gweinidog mewn cysylltiad â'r Garegddu. Ond cyfododd rhwystrau ar y ffordd i gael gweinidog i ofalu am y ddwy eglwys, gan i'r cyfeillion Cymraeg gredu y gallent gario ymlaen yr achos fel yr oeddynt. Pa fodd bynag, ymgymerwyd y flwyddyn a nodwyd â darparu i gael capel i'r eglwys a'r gynulleidfa Saesneg, ac ymhen amser casglwyd swm o arian ar gyfer hyny. Sicrhawyd tir mewn lle canolog yn yr ardal, ac adeiladwyd capel hynod o brydferth, yn cynwys lle i oddeutu 250 i eistedd. Y cynllunydd ydoedd Mr. T. G. Williams, Moss Bank, Liverpool, yr hwn yn garedig a roddodd ei wasanaeth yn rhad. Cyrhaeddodd yr holl draul, trwy fod llawer o drafferth wedi ei gael gyda'r sylfaen, dros 1350p., at yr hyn y casglwyd tuag 800p., gan y Parch. T. J. Wheldon, B.A. Cynhaliwyd cyfarfod agoriad y capel yn mis Medi, 1882, pryd y pregethwyd gan y Parch. T. J. Wheldon, B.A., Henry Jones, M.A., Bangor, D. Charles Davies, M.A., ac Ellis Edwards, M.A. Y flwyddyn hon cliriwyd 100p. o ddyled oedd wedi rhedeg gyda dygiad yr achos ymlaen. Yn 1885 penderfynodd yr eglwys wneyd un ymdrech egniol i symud ymaith y ddyled oddiar y capel. Y cynllun a gymerwyd oedd, casglu tanysgrifiadau, a chynal bazaar, yr hyn gyda diwydrwydd a dyfalbarhad di-ildio a droes allan yn llwyddiant, a chliriwyd 600p. Mae y capel o hyny allan yn gwbl ddiddyled. Dangoswyd llawer o garedigrwydd i'r Achos Saesneg gan yr ardal yn gyffredinol yn yr amgylchiad hwn, ond y Parch. T. J. Wheldon, B.A., fu y prif symudydd yn yr ymdrech, ac mae yr achos o'i gychwyniad yn dra rhwymedig iddo ef a Mrs. Wheldon am y dyddordeb a deimlent ynddo, a'u