Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/255

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENOD VII.

YR YSGOL SABBOTHOL.

CYNWYSIAD.—Y modd y cafwyd yr hanes—Dechreuad yr Ysgol Sabbothol yn Nosbarth Ffestiniog—Y rhwystrau a roddid ar ffordd ei dechreuad—Y Cyfarfod Mawr ar Fynydd Migneint yn 1808— Sefydliad y Cyfarfod Ysgolion—Taflen cyfrifon y Dosbarth— Ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgolion—Holwyddorwr yr Ysgolion— Jiwbili yr Ysgol Sabbothol—Rhaniad y Dosbarth yn Dri—Gwyl y Can'mlwyddiant yn 1885.

 UM mlynedd ar hugain yn ol, sef yn y flwyddyn 1865, fe ddarfu Dosbarth Ysgolion Ffestiniog benderfynu argraffu taflen yn cynwys crynhodeb o gyfrifon yr ysgolion, yn nghyda hanes byr am yr hyn oedd wybyddus o berthynas i ddechreuad yr Ysgol Sul yn y cylch. Ac am y pymtheng mlynedd dilynol, argraffwyd mewn cysylltiad â'r cyfrifon blynyddol, hanes dechreuad a chynydd un o'r ysgolion yn eu tro, wedi ei gasglu gan berson apwyntiedig cymwys i'r gwaith. Cadwyd mewn coffadwriaeth yn y modd hwn lawer iawn o ddefnyddiau gwerthfawr a fuasent, oni bai hyn, wedi eu llwyr gölli. Yr oedd Morris Llwyd, Cefngellewm, ysgrifenydd cyntaf y Cyfarfod Ysgolion, yn fyw y pryd hwnw, ynghyd â llawer eraill o'r hen frodorion, o enau y rhai y cafwyd hanesion na buasai modd eu cael yn awr. Mae y meddylddrych teilwng o gasglu yr hanes yn y dull hwn, i'w briodoli i'r brodyr ffyddlawn oedd yn flaenllaw gyda'r Cyfarfodydd Ysgolion, ac yn lled debygol yn benaf i arholwr yr