Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/256

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysgolion yn y blynyddoedd hyny, sef y Parch. Robert Parry. Ceir y crybwylliad cyntaf am y cynllun yn Nghyfarfod Ysgolion Croesor, Gorphenaf, 1865, ac yn nghofnodion cyfarfod Tachwedd yr un flwyddyn mae y penderfyniad canlynol:— "Yn y cyfarfod athrawon darllenwyd yr anerchiad a wnaeth y Parch. Robert Parry, gyda golwg ar yr Ysgol Sabbothol yn y Dosbarth, a phenderfynwyd ei argraffu; darllenwyd hefyd ychydig o hanes dechreuad a chynydd yr ysgolion yn y Dosbarth, ynghyd â'r cyfrifon am bob pum' mlynedd er pan ymunodd yr ysgolion yn un cylch." Bu y ffeithiau a gasglwyd, a'r adroddiadau a argraffwyd y blynyddoedd hyny, yn llawer o help i gasglu ynghyd yr hanes presenol. Rhoddwyd eisoes ddyfyniadau o waith yr ysgol yn y gwahanol ardaloedd ynglyn â gweithrediadau yr amrywiol eglwysi, am nas gallesid deall cysylltiadau yr hanes heb hyny. Bwriedir rhoddi eto yn y benod hon y prif linellau o weithrediadau yr ysgol o'i sefydliad hyd yn awr.

DECHREUAD YR YSGOL SABBOTHOL YN NOSBARTH FFESTINIOG.

Y mae Trawsfynydd o fewn rhyw bymtheng milldir i'r Bala, cartref y Parch. Thomas Charles, B.A., sylfaenydd yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru. Yr oedd eglwysi wedi eu sefydlu gan y Methodistiaid yma ac yn Ffestiniog, Pandy'rddwyryd, a Phenrhyndeudraeth, cyn y flwyddyn gofiadwy 1785. Gallesid disgwyl, gan hyny, i'r son am yr Ysgol Sul gyrhaeddyd i'r cymydogaethau hyn, a chynyrchu gradd o dueddfryd ati, gyda'r manau cyntaf yn Sir Feirionydd. Felly y bu. Fel y canlyn y cawn yr hanes yn anerchiad y Parch. Robert Parry, yr hwn oedd yntau wedi ei gael o enau Morris Llwyd, a hen bobl eraill:—

"Dechreuodd yn y Dosbarth hwn yn mhlwyfydd Trawsfynydd a Ffestiniog yn agos i'r un amser. Y mae genym hanes sicr ei bod wedi dechreu mewn tŷ a elwir Bwlchgwyn,