Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II.djvu/257

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn mhlwyf Trawsfynydd, (oddeutu milldir o bentref Trawsfynydd, yr ochr ddwyreiniol iddo), yn y flwyddyn 1787. Y modd y dechreuwyd hi oedd fel y canlyn. Yr oedd pregethwr yn byw yn Nhrawsfynydd, o'r enw Edward Roberts, a elwid gan rai Vicar Crawcallt,' oherwydd mai mewn tŷ yn nghwr y mynydd hwnw yr oedd yn byw yn nechreu ei oes. Rhyw Sabbath yn yr haf yr oedd ei gyhoeddiad i bregethu mewn amaethdy, a elwir Brynygath, yn mhlwyf Trawsfynydd, ac yn agos i derfyn plwyf Llanfachreth; ac aeth cyfaill iddo, a elwid Hugh Roberts, o'r Bwlchgwyn, gydag ef. Ar y ffordd, wrth fyned neu ddychwelyd, dywedodd Hugh Roberts wrtho, 'Mae ar fy meddwl i wneyd ysgol ddydd Sul, i ddysgu plant a phobl ieuainc i ddarllen.' Mae yn debyg nad oedd ef yn gwybod y pryd hwnw fod Ysgol Sul yn y byd. Cymeradwyodd Edward Roberts yr awgrymiad, a'r canlyniad fu cyhoeddi y noson hono yn Hen Gapel Trawsfynydd fod ysgol i ddechreu y Sabbath canlynol yn y Bwlchgwyn. Daeth rhyw nifer at eu gilydd, a dechreuwyd yr ysgol. Ni chafodd Hugh Roberts ond ychydig gynorthwy gan ei frodyr yn y dechreu: yr oedd rhai yn tybied fod dysgu y gelfyddyd o ddarllen ar y Sabbath yn drosedd o'r pedwerydd gorchymyn. Ymhen rhyw ychydig o Sabbothau yr oedd y Parch. Thomas Charles o'r Bala i fod yn pregethu yn Nhrawsfynydd, ac ofnai Hugh Roberts a'i gyfeillion ei gyfarfod, rhag eu bod wedi troseddu trwy gadw'r ysgol ar y Sabbath. Ond pan ddaeth Mr. Charles yno, dywedasant wrtho mewn ofn a phryder yr hyn a wnaethent. Eisteddai yntau yn syn am enyd, a dywedodd, 'Yn wir, bobl, y mae yn waith da, canlynwch arno, ac mi a fyddaf yn bob cynorthwy a allaf i chwi.' Derbyniodd yr awgrym, a chynhyrfodd y wlad; a sefydlwyd Ysgolion Sabbothol drwy y wlad yn gyffredinol. Yn ganlynol tueddwyd rhywrai yn ychwaneg i gynorthwyo gyda'r ysgol yn Nhrawsfynydd, a dechreuwyd ysgol yn yr Hen Gapel yn y pentref. Erbyn hyn yr oedd